Skip to main content

Ein Siarter Gofal Cwsmeriaid

Ein Gweledigaeth

Rydyn ni'n anelu at ddarparu gwybodaeth a chyngor o safon uchel i gwsmeriaid, ni waeth sut rydych chi'n cysylltu â ni.

Ein Haddewidion

Pan rydych chi'n defnyddio'n gwasanaethau, byddwn ni'n...

  • Cwrtais, boneddigaidd ac o gymorth.
  • Agored, gonest ac yn esbonio ein penderfyniadau.
  • Delio â chi mewn modd parchus a proffesiynol.
  • Ymateb i anghenion amrywiol ein cwsmeriaid, gan addasu ein dulliau pan fo'i angen.
  • Darparu gwybodaeth mewn ffordd glir a hawdd i'w deall.
  • Gwrando ar adborth ac unrhyw syniadau sydd gennych chi ar sut i wella ein gwasanaeth.
  • Gwerthfawrogi a pharchu amrywioldeb ein cwsmeriaid, a cheisio cwrdd ag anghenion unigolion.
  • Sicrhau bod ein gweithwyr wedi derbyn digon o hyfforddiant fel eu bod nhw'n gallu rhoi'r cyngor a chymorth sydd eu hangen.
  • Ymddiheuro os yw pethau'n mynd o chwith, a gwneud ein gorau glas i wneud iawn.

Ein hamcanion a'n safonau

Wrth ddefnyddio'n gwefan rydyn ni'n bwriadu...

  • Darparu gwasanaeth 24 awr ar www.rctcbc.gov.uk o leiaf 99% o'r amser
  • Darparu gwybodaeth a rheolaethau ar gyfer Gwasanaethau allweddol y Cyngor.
  • Sicrhau bod o leiaf 80% o Ymholiadau Cwsmeriaid yn cael eu datrys drwy'r wefan.
  • Sicrhau bod o leiaf 80% o Gwsmeriaid yn hapus gyda'r gwasanaeth.

Wrth ddelio â chi dros y Ffôn rydyn ni'n bwriadu...

  • Ateb y galwad o fewn 188 eiliad ar gyfartaledd.
  • Hysbysu cwsmeriaid o'n gwasanaeth mewn argyfwng a thu allan i oriau swyddfa ac ymateb o fewn 30 eiliad pan rydyn ni ar gau.
  • Sicrhau bod o leiaf 90% o Ymholiadau Cwsmeriaid yn cael eu datrys gan y pwynt cyswllt cyntaf.
  • Sicrhau bod o leiaf 93% o Gwsmeriaid yn fodlon.

Wrth ddelio â chi yn bersonol, rydyn ni'n bwriadu...

  • Darparu mynediad at gyngor a gwybodaeth mewn amgylchedd 'siop un stop' diogel a chroesawus
  • Cynnig apwyntiadau un wrth un o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl trefnu'r apwyntiad, a'ch gweld chi ar yr amser y cytunwyd arno.
  • Sicrhau bod o leiaf 93% o Ymholiadau Cwsmeriaid yn cael eu datrys gan y pwynt cyswllt cyntaf.
  • Sicrhau bod o leiaf 93% o'n Cwsmeriaid yn fodlon.

Os ydych chi'n anfon e-bost rydyn ni'n bwriadu...

  • Anfon ymateb cydnabod awtomatig.
  • Adolygu a throsglwyddo'ch cais i'r adran berthnasol o fewn 5 diwrnod gwaith.
  • Yn ogystal â hyn, byddwn ni'n darparu'r cyfeirnod achos i chi.