Skip to main content

Safonau Masnach - pwysau a mesurau

Dylai pwysau neu fesuriad pob nwydd – wedi'i becynnu ymlaen llaw neu beidio – fod yn gywir ac yn gyson â'r hyn sydd wedi'i nodi ar y deunydd pacio neu ar y safle. I gael rhagor o wybodaeth am nwyddau ac offer, edrychwch ar ein taflenni gwybodaeth.

Rhan o'n gwaith ni yw sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn y swm cywir o unrhyw gynnyrch maen nhw'n ei brynu.

Erbyn hyn, mae bron pob nwydd yn cael ei werthu yn ôl pwysau neu fesuriad – peint, litr, gram, metr ac ati. Mae hyn yn cynnwys eitemau bob dydd, fel bara, petrol, cwrw, deunydd dillad, tywod neu bron unrhyw beth arall mae modd i chi feddwl amdano. Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gweithredu set gymhleth o reoliadau sy'n ceisio sicrhau bod modd i'r cyhoedd a busnesau fod yn hyderus wrth brynu a sicrhau cystadleuaeth deg. Dyma sut rydyn ni'n gwneud hyn:

  • Gwirio offer pwyso a mesur i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio'n gywir yn y lle cyntaf
  • Ymweld â busnesau yn rheolaidd i wirio offer pwyso a mesur
  • Gwirio nwyddau sydd eisoes yn y siopau
  • Ymateb i gwynion am fesurau byr

Mae esboniad mwy manwl o'r ddeddfwriaeth pwysau a mesurau i'w weld isod. Os ydych chi'n amau bod busnes yn Rhondda Cynon Taf wedi rhoi mesuriad byr i chi, ac mae eisiau rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â ni.

Pwysau a mesurau – cipolwg

Faint o nwyddau sy'n cael eu manwerthu yn ôl pwysau a mesurau yn y Deyrnas Unedig? Gwerth tua £1 biliwn! Ond, pa mor siŵr ydych chi o gael y pwysau neu'r mesurau gofynnoch chi amdanyn nhw?

Dyma amcanion y gyfraith ar bwysau a mesurau:

  • sefydlu system pwysau a mesurau unffurf a diogel;
  • gosod rheolaeth ar yr offer pwyso a mesur sy'n cael ei ddefnyddio mewn masnach;
  • diogelu'r cyhoedd rhag cael mesuriad byr wrth brynu nwyddau.

Dyma seiliau'r system pwysau a mesurau sydd gennym ni bellach:

  • fframweithiau cyfreithiol
  • gweithredu'r gyfraith mewn ffordd gytbwys a digonol
  • gwelliannau technolegol i offer pwyso a mesur

Mae corff y gyfraith ynglŷn â phwysau a mesurau yn anferth. Bellach, mae mwy o nwyddau nag erioed ar werth, llawer rhagor o fathau o nwyddau, ac mae technoleg wedi gwella. Roedd angen deddfwriaeth newydd.

Amser maith yn ôl, mater syml oedd pwyso a mesur. Faint gallai rhywun ei gario? Pa mor hir yw hwn o'i gymharu â’m llaw, fy mraich, neu un o'm camau?

Wrth i bobl ddechrau prynu a gwerthu rhagor o bethau, daeth angen am ffyrdd mwy manwl a chywir o bwyso a mesur y nwyddau.

Mae system ar waith sy'n sicrhau bod y cilogram a'r metr yn gyson ym mhob man. Pan fydd arolygwyr yn mynd allan i roi prawf ar offer pwyso a mesur, byddan nhw'n cymharu eu pwysau a'u mesurau safonol yn erbyn y rhai yn ein swyddfa. Mae pwysau'n cael eu profi trwy ddefnyddio offer mae'r Swyddfa Fesur Wladol yn eu cyfeirio'n ôl at gopi o brototeip rhyngwladol y cilogram sy'n cael ei gadw yn ei swyddfa. Mae'r metr yn cael ei ddiffinio yn ôl cyflymder goleuni, sydd byth yn newid. Felly, mae'n gyfeirnod mwy perffaith. Mae pob uned, felly, yn cael ei ddiffinio yn y pen draw yn ôl y metr neu'r cilogram.

Mae'r Swyddfa Fesur Wladol yn archwilio patrymau offer pwyso a mesur (sy'n cael eu cyflwyno yn y Deyrnas Unedig) i benderfynu ydy'r dyluniad neu'r gwneuthuriad yn hwyluso twyll. Pan fydd tystysgrif gan offer o'r fath, bydd rhaid iddo gydymffurfio â'r patrwm a llwyddo mewn profion cywirdeb sy'n cael eu cynnal gan arolygydd. Pan fydd yr offer wedi'i ddilysu neu ei stampio gan arolygydd, bydd modd ei ddefnyddio ar gyfer masnach (dyma'r system gwirio). Mae hefyd system cymeradwyo gan y Gymuned Ewropeaidd sy'n dileu rhwystrau technegol ym myd masnach.

Dyna pam bydd Arolygwyr Pwysau a Mesurau (‘Swyddogion Safonau Masnach’) yn ymweld â safleoedd masnachu. Byddan nhw'n profi ac yn gwirio offer pwyso a mesur o bob math, er enghraifft: peiriannau pwyso ar gownteri; pontydd pwyso; pwysau; pympiau petrol; offer mesur gwirodydd; gwydrau gwin a chwrw; ffyn mesur metr ac ati. Byddan nhw'n profi nwyddau wedi'u rhagbacio – bara, tecstilau ac ati – i wneud yn siŵr bod y pwysau neu'r mesur yn gywir.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar y gwefannau canlynol:
Gwybodaeth am bwyso cerbydau ffordd gan y cyhoedd.

Y Swyddfa Fesur Wladol
Mae'n un o Asiantaethau Gweithredol yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod holl bwysau a mesurau byd masnach yn gywir, yn gyfreithlon ac yn deg i'r prynwr a'r gwerthwr.

Legislation.gov.uk
Mae'n darparu testun Deddfau Seneddol yn llawn.

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (‘DEFRA’)
Mae'n gyfrifol am hanfodion bywyd – dŵr, bwyd, aer, tir, pobl, anifeiliaid a phlanhigion.

Safonau Masnach Canolog
Siop un stop am wybodaeth diogelu defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau a defnyddwyr.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer y cyhoedd a busnesau.

Yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
Mae'n ceisio diogelu defnyddwyr, ac esbonio eu hawliau; a sicrhau bod busnesau'n cystadlu ac yn gweithredu mewn ffordd deg.

Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (‘BIS’)
Mae'n gweithio gyda busnesau, gweithwyr a defnyddwyr er mwyn cynyddu cynhyrchiant y Deyrnas Unedig a'i gwneud hi'n wlad fwy cystadleuol er mwyn sicrhau ffyniant i bawb.

Asiantaeth Safonau Bwyd (‘FSA’)
Mae'n gorff gwarchod annibynnol ym maes diogelwch bwyd. Mae'n diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr o ran bwyd.

Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301