Skip to main content

Polisi Gorfodi Corfforaethol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn annog pobl i gydymffurfio â'r gyfraith er lles ein cymunedau ehangach. 

Pan fydd hyn yn cael ei danseilio, mae'r Cyngor yn gallu defnyddio pwerau cyfreithiol i ddiogelu cymunedau rhag niwed. Mae llawer o'r gwasanaethau o fewn y Cyngor yn cyflawni dyletswyddau gorfodi. Maent yn amrywio o gymorth a chyngor er mwyn annog cydymffurfiaeth, i gyflwyno hysbysiadau sy'n gofyn pobl i gyflawni camau gweithredu penodol, i gyflwyno hysbysiadau cosb, i gael gwaharddebau er mwyn atal gyflawniad gweithgareddau penodol neu i gael erlyniad. Mae gan orfodi effeithiol ran bwysig i'w chwarae wrth helpu'r Cyngor i gyflawni amcanion y Strategaeth Gymunedol.

Caiff gorfodaeth yn Rhondda Cynon Taf ei chynnal gan amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor megis:

  • Gwasanaethau i Blant (gan gynnwys gorchmynion gofal, gorchmynion amddiffyn brys a diffyg presenoldeb yn yr ysgol);
  • Ystadau Cymunedol (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent a thresmasu);
  • Addysg (gan gynnwys hawliadau budd-daliadau twyllodrus);
  • Iechyd yr Amgylchedd (gan gynnwys hylendid bwyd, iechyd a diogelwch, tai, rheoli llygredd ac ysmygu);
  • Cyllid (gan gynnwys ardrethi busnes a chamau gorfodi ynghylch Treth y Cyngor);
  • Priffyrdd (gan gynnwys rhwystrau priffyrdd, sgipiau a sgaffaldiau);
  • Adennill Tir (gan gynnwys draenio tir a mwyngloddiau a chwareli);
  • Trwyddedu (gan gynnwys alcohol, sefydliadau anifeiliaid, gamblo, adloniant cyhoeddus a thacsis);
  • Parciau a Chefn Gwlad (gan gynnwys is-ddeddfau parciau, hawliau tramwy cyhoeddus a gorchmynion cadw coed);
  • Cynllunio a Rheoli Adeiladu;
  • Gofal Strydoedd (gan gynnwys baeddu gan gŵn, tipio anghyfreithlon, gosod posteri'n anghyfreithlon, gollwng sbwriel, gwastraff masnach a gwastraff o gartrefi);
  • Safonau Masnach (gan gynnwys iechyd anifeiliaid, masnachu teg, diogelwch bwyd, diogelwch cynnyrch a phwysau a mesurau);
  • Cludiant (gan gynnwys meysydd parcio a  gorfodi parcio oddi ar y stryd);

Diben y Polisi Gorfodi Corfforaethol hwn yw sefydlu dull gorfodi unffurf ym mhob rhan o'r Cyngor heb roi gormod o faich ar fusnesau, sefydliadau a defnyddwyr lleol, neu'r cyhoedd.  Datblygwyd y polisi yn unol ag egwyddorion y Concordat Gorfodi a Chôd Cydymffurfio i Reoleiddwyr. Wrth wneud hyn rydym ni am nodi'n glir beth yw dull y Cyngor wrth orfodi’i bŵerau cyfreithiol.

Nod y polisi yw darparu cyfarwyddyd i swyddogion, busnesau, defnyddwyr a'r cyhoedd, drwy bennu'n glir beth yw dull gorfodi'r Cyngor, i gynorthwyo 'r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Gymunedol.   

Amcanion y polisi yw sicrhau fod pob gweithgaredd gorfodi yn bodloni'r meini prawf canlynol:

  • Ymgymryd â nhw yn unol ag egwyddorion gwaith gorfodi da a bennwyd gan y Concordat Gorfodi.
  • Bod yn gyson â'r Hawliau Confensiwn a bennir yn Neddf Hawliau Dynol 1988 ar gyfer amddiffyn hawliau'r unigolyn.
  • Cael eu rheoli mewn ffordd effeithlon.
  • Eu cymryd yn brydlon a heb oedi dianghenraid.
  • Pob un o Wasanaethau'r Cyngor i ymgymryd â nhw mewn ffordd gyson.
  • Ymgymryd â nhw mewn ffordd deg, annibynnol, a thryloyw, gan ystyried pob achos ar ei deilyngdod ei hun.
  • Peidio â derbyn dylanwad gan liw, tarddiad ethnig, hil, anabledd, rhywioldeb, crefydd, statws priodasol, rhyw, oed, neu ddaliadau gwleidyddol.
  • Peidio â derbyn dylanwad gan bwysau amhriodol neu anghyfreithiol ormodol o unrhyw ffynhonnell, neu gan arferion amhriodol neu anghyfreithlon gan y swyddog.
  • Bod yn gydnaws â Chynllun Cymunedol y Cyngor ac â Chynllun Busnes pob Gwasanaeth.

Bydd raid i weithgareddau gorfodi'r Cyngor roi sylw i:

  • Yr egwyddor yn y Concordat Llywodraeth Leol ar Orfodi Da
  • Yr egwyddorion yng Nghôd Cydymffurfio ar gyfer Rheolyddion (ar gyfer rhai swyddogaethau penodol gan y Ddeddf Swyddogaethau Deddfwriaethol a Rheoleiddiol);
  • Y profion tystiolaethol a budd y cyhoedd yn y Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron

Mae'r polisi yn cynnwys yr amrediad canlynol o ddewisiadau gorfodi sydd ar gael i swyddogion y Cyngor:

  • Camau a chyngor anffurfiol:
  • Hysbysiadau statudol;
  • Hysbysiadau Cosb Benodedig, Hysbysiadau Cosb am Anhrefn, a Hysbysiadau o Dâl Cosb a Hysbysiadau o Dâl Ychwanegol;
  • Achosion atafaelu a fforffedu;
  • Camau gwaharddol;
  • Gwrthod, diddymu, adolygu ac atal trwyddedau a hawlenni;
  • Gwaharddiadau;
  • Gorchymyn atafaelu'r Ddeddf Elw Troseddau;
  • Sancsiynau sifil o dan Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau;
  • Rhybuddion syml;
  • Erlyniadau;

Os oes gan unrhyw ddinesydd neu fasnachwr unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut y mae'r Polisi Gorfodi Corfforaethol hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn sefyllfa benodol pan fydd swyddog gorfodi'r Cyngor wedi eu cymryd neu'n bwriadu cymryd camau gorfodi mewn perthynas â hwy, dylen nhw gysylltu â rheolwr y tîm lle mae'r swyddog hwnnw wedi ei leoli. Bydd y swyddog gorfodi yn gallu rhoi'r manylion cyswllt ar gyfer y rheolwr perthnasol.