Skip to main content

Rheoli Datblygiad y Priffyrdd

Mae'r Canllaw Dylunio yma wedi'i gynhyrchu a'i hyrwyddo gyda'r nod o gynorthwyo pob rhanddeiliad i ddeall y broses sy'n gysylltiedig â dylunio ac adeiladu heolydd newydd ar gyfer ystadau preswyl, diwydiannol a masnachol newydd.

Mae'r canllaw yma yn cynnwys pob cam yn y broses o'r cyfnod ymgynghori cynllunio cychwynnol hyd at ddylunio manwl, pennu deunyddiau, adeiladu a mabwysiadu'r priffyrdd newydd.

Drwy ddilyn y prosesau yma, mae modd i ddatblygwyr fod yn hyderus y bydd y seilwaith maen nhw'n ei ddarparu yn addas i'w fabwysiadu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel yr Awdurdod Priffyrdd.  Trwy ddilyn y broses yma, bydd preswylwyr, meddianwyr a'u cynghorwyr cyfreithiol yn elwa o bresenoldeb cytundebau priodol mewn perthynas â'r priffyrdd, i warchod eu buddiannau a'u diogelu rhag atebolrwydd posibl sy'n gysylltiedig â seilwaith priffyrdd sydd heb ei fabwysiadu.

Y bwriad yw y bydd y Canllaw Dylunio yn ddogfen "fyw" a bydd yn destun diweddariadau parhaus i adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf o ran safonau dylunio, deunyddiau a datblygiadau technolegol.

Mae'r Cyngor yn croesawu adborth ar y canllawiau yma.

Cysylltwch ag adran Rheoli Datblygiad y Priffyrdd:-

Tudalennau Perthnasol