Skip to main content

Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol

Mae'r Cyngor yn berchen ar ystod amrywiol o asedau tir ac eiddo sy'n gwneud cyfraniad pwysig a chadarnhaol tuag at gyflawni amcanion corfforaethol.  Mae ansawdd, cyflwr, cynaliadwyedd ac addasrwydd ein hasedau gweithredol yn cael effaith uniongyrchol ar yr ansawdd a'r gallu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen.

elly, mae'n hynod bwysig bod yr asedau hyn yn parhau i gael eu rheoli mewn modd rhagweithiol ac effeithlon er mwyn caniatáu ar gyfer gofynion newidiol ein cwsmeriaid, staff a deddfwriaeth.

Rheoli Asedau Strategol ar gyfer tir ac adeiladau yw'r gweithgaredd sy'n sicrhau bod tir ac adeiladau'r Cyngor wedi eu strwythuro i'r eithaf er y buddiant corfforaethol gorau.  Mae'n ceisio alinio'r sail asedau â nodau ac amcanion corfforaethol y Cyngor.  Mae asedau tir ac eiddo'r Cyngor yn cael eu cynnal fel cymorth i brif fusnes y Cyngor, sef darparu gwasanaethau.  Yn bennaf oll, rhaid defnyddio adnodd eiddo i wneud y mwyaf o fudd posib i gyflenwi gwasanaethau.

Mae'r strategaeth asedau wedi'i nodi yn y Cynllun Rheoli Asedau  Corfforaethol ar gyfer Asedau Eiddo ar gyfer 2018/2023.  Mae wedi cael ei ddatblygu i sicrhau bod rheoli asedau yn cael ei gymhwyso o ran golwg strategol hirdymor y portffolio tir ac eiddo.