Skip to main content

Cofrestru ar gyfer tatŵio, tyllu'r croen ac electorlysis

Cofrestru ar gyfer tatŵio, tyllu'r croen ac electorlysis

Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan VIII yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestru'r mathau canlynol o dyllu'r croen gyda'r Cyngor:

  • Aciwbigo
  • Tatŵio
  • Lliwio Croen yn Lled Barhaol
  • Tyllu cosmetig
  • Electrolysis

Newidiadau i’r Gyfundrefn Cofrestri Presenol ar Gyfer Tatwio, Tyllu’r Croen ac Electrolysis

Crynodeb o'r rheoliadau

Mae'r Ddeddf yn gwneud cofrestru yn ofynnol ar gyfer y person sy'n cyflawni'r gwaith, yn ogystal â'r safle sy'n cael ei ddefnyddio i'r diben hwnnw. Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi mabwysiadu is-ddeddfau sydd wedi sefydlu'r safonnau gofynnol er mwyn rheoli heintiau. Darllenwch gopi o is-ddeddfau ar Aciwbigo, Tatŵio, Lliwio Croen yn Lled Barhaol, Tyllu Cosmetig ac Electrolysis Mae rhaid i'r ymgeisydd sicrhau bod y gweithdrefnau, yr offer a'r cyfleusterau sy'n cael eu defnyddio yn ddiogel, yn hylan, yn atal clefydau rhag lledaenu, ac yn cydymffurfio'n llwyr â'r ddyletswydd gofal cyffredinol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974.

Mae cynnal y gweithgareddau uchod yn erbyn y gyfraith oni bai bod y cofrestriad wedi'i gymeradwyo yn ffurfiol. 

Sut mae gwneud cais

Mae modd gwneud ymholiad neu gael ffurflenni cais trwy gysylltu â ni:

Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

E-bost: Bwyd.IechydaDiogelwch@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425324
Ffacs: 01443 425301

Cyflwyno cais

Unwaith i gais gael ei gyflwyno a bod y ffi berthnasol wedi dod i law, bydd swyddog yn cynnal archwiliad o'r safle ac yn asesu'r ymarferwr/ymarferwyr.

Ffioedd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn codi'r ffioedd canlynol ar hyn o bryd ar gyfer gwneud cais o ran cofrestru i datŵio, lliwio croen yn lled-barhaol (gan gynnwys micro-lafnu) ,tyllu cosmetig, electrolysis ac aciwbigo;

fees
Cais am Gofrestriad Adeilad  £176
Cais am Gofrestriad Personol   £86
Cais am Drosglwyddiad Personol    £38

Cais am Gofrestriad Personol Ychwanegol 

Nodwch: Dylech chi ddefnyddio'r ffurflen yma yn unig os ydych chi'n meddu ar gofrestriad personol mewn adeilad COFRESTREDIG yn Rhondda Cynon Taf ac mae angen cofrestriad YCHWANEGOL arnoch chi i weithio mewn adeilad COFRESTREDIG arall yn Rhondda Cynon Taf.

 £38