Skip to main content

Trwydded gwerthu gwenwyn sydd ddim yn feddyginiaeth

Mae adwerthu gwenwynau yn cael ei reoli gan Ddeddf Gwenwynau 1972.

Mae Gorchymyn Rhestr Gwenwynau 1982 yn cynnwys rhestr o'r gwenwynau sy'n dod o dan y Ddeddf Gwenwynau. Mae Rhan I o'r rhestr yma yn cynnwys gwenwynau y mae fferyllydd cofrestredig yn unig â'r hawl i'w gwerthu. Mae Rhan II o'r rhestr yn cynnwys y gwenwynau does dim modd eu gwerthu oni bai eich bod chi wedi cofrestru i wneud hynny â'ch Awdurdod Lleol.

Cofrestru ar gyfer gwerthu gwenwyn sydd ddim at bwrpas meddygol

  Cyn i chi werthu gwenwynau sy'n cael eu rhestru yn Rhan ll y Ddeddf Gwenwynau, rhaid i chi wneud cais i'r Cyngor am roi'ch enw ar ei restr o bersonau sydd â'r hawl i werthu'r gwenwynau sy'n cael eu cynnwys yn Rhan ll.

Sut mae gwneud cais?

Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni:

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái

Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001 
Ffacs: 01443 425301 

Costau

Rhaid talu ffi i wneud cais. Mae'r ffi yn daladwy wrth gyflwyno'r cais. Dyma'r ffioedd ar hyn o bryd:

  • Cofrestriad cychwynnol – £41.00
  • Ailgofrestru – £22.00
  • Newid manylion cofrestru – £10.00

Adnewyddu trwydded

Bydd enw'r unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar gyfer gwerthu gwenwynau yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ar 30 Ebrill bob blwyddyn, oni bai bod cais wedi dod i law i gadw'r enw ar y rhestr honno. 

Gwenwynau mae Rhan II yn berthnasol iddyn nhw

Mae'r gwenwynau canlynol wedi'u rhestru yn Rhan ll o'r Rhestr Gwenwynau:

Aldicarb; alffa-cloralos; amonia; y cyfansoddion arsenig canlynol – calsiwm arsenitau, copr asetoarsenit, copr arsenatau, copr arsenitau, plwm arsenatau; yr halwynau bariwm canlynol – bariwm carbonat, bariwm silicofflworid, carboffwran, seiclohecsimid; deunitrocresolau (DNOC), eu cyfansoddion gyda metel neu gyda bas; dinoseb, a'i gyfansoddion gyda metel neu gyda bas; dinoterb; drasocsolon a'i halwynau; endosylffan; endothal a'i halwynau; endrin; cyfansoddion ffentin; fformaldehyd; asid fformig; asid hydroclorig; asid hydrofflworig, fflworidau metelau alcalïaidd, amoniwm deufflworid, fflworidau metelau alcalïaidd, amoniwm fflworid, sodiwm silicofflworid; clorid mercwrig, iodid mercwrig, cyfansoddion organig mercwri ac eithrio cyfansoddion sy'n cynnwys grŵp methyl (CH3) wedi'i gysylltu yn uniongyrchol â'r atom mercwri; ocsalatau metelig; methomyl; nicotin a'i halwynau a'i gyfansoddion cwaternaidd; asid nitrig; nitrobensen; ocsamyl; paracwat a'i halwynau; ffenolau (fel y'u diffinnir yn Rhan I y Rhestr Gwenwynau) mewn sylweddau sy'n cynnwys llai na 60% o bwysau o ffenolau, o ran pwysau'r toddyn, a chyfansoddion ffenolau gyda metel mewn sylweddau sy'n cynnwys llai na 60% o bwysau o ffenolau, o ran pwysau'r toddyn; asid ffosfforig; y cyfansoddion ffosfforws canlynol – asinffos-methyl, clorffenfinffos, demffion, demeton-S-methyl sylffon, dialiffos, diclorfos, deuocsathion, deusylffoton, ffonoffos, mecarbam, meffosfolan, methidathion, mefinffos, omethoat, ocsidemeton-methyl, parathion, ffencapton, fforat, ffosffamidon, pirimiffos-ethyl, cwinalffos, thiometon, thionasin, triasoffos, famidothion; potasiwm hydrocsid; sodiwm hydrocsid; sodiwm nitrit; asid sylffwrig; thioffanocs; sinc ffosffid.

Gofynion sy'n ymwneud â Gwerthu Gwenwynau Rhan II

Does dim modd gwerthu'r gwenwynau hyn ond o safleoedd wedi'u henwi ar restr y Cyngor.

Rhaid labelu cynhwysydd y gwenwyn:

  • ag enw'r gwenwyn; ac
  • yn achos paratoad sy'n cynnwys gwenwyn yn un o'i gynhwysion, â manylion ynghylch cyfran y gwenwyn i gyfanswm y cynhwysion; ac
  • â'r gair ‘gwenwyn’, neu â mynegiad rhagnodedig arall o gymeriad yr eitem; ac
  • ag enw'r gwerthwr ac â chyfeiriad y safle lle mae'n cael ei werthu.

Does dim modd gwerthu gwenwyn hylif mewn potel sydd â chyfaint sy'n llai nag 1.14 litr, oni bai bod arwyneb allanol y botel yn rhychiog, â rigolau neu ribiau y mae modd eu hadnabod drwy gyffwrdd yn rhedeg ar ei hyd yn fertigol.

Yn achos aldicarb, unrhyw sylwedd arsenaidd neu fercwrïaidd (oni bai'i fod yn cynnwys dim mwy na'r cyfrannau bach o arsenig neu fercwri a gaiff eu pennu yn Atodlen 1 o'r Rheolau), ac yn achos bariwm carbonat (ac eithrio yn achos eitemau a gaiff eu paratoi ar gyfer difa llygod mawr neu lygod) a bariwm silicofflworid, carboffwran, seiclohecsimid, deunitrocresolau (ac eithrio trwythau gaeaf sy'n cynnwys dim mwy na 5% o hwnnw), dinoseb, drasocsolon, endosylffan, endothal, endrin, cyfansoddion ffentin, methomyl, nicotin (ac eithrio pryfleiddiaid amaethyddol a garddwriaethol sy'n cynnwys llychau nicotin sy'n cynnwys dim mwy na 4% o nicotin), ocsamyl, paracwat, y cyfansoddion ffosfforws, ac yn achos sinc ffosffid (ac eithrio yn achos eitemau a gaiff eu paratoi ar gyfer difa llygod mawr neu lygod) bydd yn ofynnol i'r prynwr naill ai (a) fod yn berson sy'n hysbys i'r gwerthwr, neu i'r person sy'n gyfrifol am y safle lle mae'r sylwedd yn cael ei werthu, neu i'r person sy'n gyfrifol am yr adran lle mae'r gwerthiant yn cael ei wneud, y mae modd, yn briodol, werthu'r gwenwyn iddo, neu (b) gyflwyno tystysgrif ddilys yn y ffurf a gaiff ei rhagnodi yn Atodlen 10 o'r Rheolau. Yn ogystal â hynny, yn achos gwenwynau o'r fath, cyn traddodi'r gwenwyn rhaid cofnodi manylion gofynnol y gwerthiant yn y llyfr gwenwynau sydd i'w gadw yn y ffurf a gaiff ei rhagnodi yn Atodlen 11 o'r Rheolau, ac (yn ddarostyngedig i'r eithriad a gaiff ei grybwyll nesaf) rhaid i'r prynwr lofnodi'r cofnod. Yn achos gwerthiant i berson i ddibenion ei fasnach neu ei fusnes (ffermwr, garddwriaethwr ac ati), mae modd hepgor llofnodi'r cofnod yn y llyfr gwenwynau ar amodau penodol, er enghraifft cael archeb i law wedi'i llofnodi eisoes gan y prynwr.

Does dim modd gwerthu aldicarb, alffa-cloralos, sylweddau arsenaidd neu fercwrïaidd, bariwm carbonat, carboffwran, seiclohecsimid, deunitrocresolau, dinoseb, drasocsolon, endosylffan, endothal, endrin, cyfansoddion ffentin, ocsalatau metelig heblaw potasiwm cwadrocsolat, methomyl, nitrobensen, ocsamyl, paracwat, y cyfansoddion ffosfforws, a sinc ffosffid, ond mewn mathau penodol o baratoadau fel sydd wedi'u pennu yn Rhan A o Atodlen 4 o'r Rheolau (er enghraifft, calsiwm arsenitau mewn pryfleiddiaid neu ffwngleiddiaid amaethyddol, garddwriaethol neu goedwigol), ac mewn cynwysyddion wedi'u labelu'n glir â hysbysiad o'r diben penodol maen nhw i'w defnyddio ar ei gyfer, ac â rhybudd eu bod nhw i'w defnyddio i'r diben hwnnw yn unig.

Does dim modd gwerthu'r gwenwynau canlynol ond i bersonau sy'n ymgymryd â masnach neu fusnes amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth, ac i ddibenion y fasnach honno neu'r busnes hwnnw:- aldicarb, cyfansoddion arsenig (heblaw plwm arsenatau a chopr asetoarsenit), carboffwran, deunitrocresolau (ac eithrio trwythau gaeaf sy'n cynnwys dim mwy na chyfwerth 5% o ddeunitrocresolau), dinoseb, drasocsolon, cyfansoddion ffentin, unrhyw glorid mercwrig, iodid mercwrig, neu gyfansoddyn organig arall o fercwri (heblaw toddiannau o ffenol asetat mercwrig (sy'n cynnwys dim mwy na 5% o bwysau o ran y cyfaint) i'w defnyddio mewn baddonau nofio), methomyl, ocsamyl, paracwat, y cyfansoddion ffosfforws (heblaw mipoffocs ar ffurf capan ar ffon neu wifren). Does dim modd gwerthu seiclohecsimid ond i bersonau sy'n ymgymryd â masnach neu fusnes amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth, ac sydd ei angen i ddibenion y fasnach honno neu'r busnes hwnnw.

Rhaid pacio unrhyw wenwyn i'w gludo yn ddigon cadarn er mwyn ei atal rhag gollwng yn sgil risgiau cyffredin trin a chludo. Yn achos y gwenwynau canlynol, rhaid labelu'r tu allan i'r pecyn yn amlwg ag enw'r gwenwyn ac â hysbysiad ei fod i'w gadw ar wahân i fwyd ac i gynwysyddion bwyd gwag:-

aldicarb, cyfansoddion arsenig, halwynau bariwm, carboffwran, seiclohecsimid, drasocsolon, endosylffan, endothal, endrin, cyfansoddion ffentin, methomyl, nicotin (ac eithrio mewn paratoadau solid sy'n cynnwys llai na 4% o nicotin), ocsamyl, unrhyw un o'r cyfansoddion ffosfforws, a dinoseb a deunitrocresolau hefyd a hwythau'n rhan o gynhwysion paratoadau i'w defnyddio mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth (ac eithrio trwythau gaeaf sy'n cynnwys dim mwy na chyfwerth 5% o ddeunitrocresolau). Does dim modd cludo'r gwenwynau hyn mewn unrhyw gerbyd lle mae bwyd yn cael ei gludo, oni bai bod y bwyd mewn rhan sydd wedi'i gwahanu'n effeithiol o'r rhan honno sy'n cludo'r gwenwyn, neu'n cael ei warchod mewn modd arall rhag risg halogiad.

Does dim modd i siopwr rhestredig werthu unrhyw wenwyn heblaw amonia, asid hydroclorig (gwirod halen), asid nitrig, ac asid sylffwrig, ac eithrio mewn cynwysyddion caeëdig fel sydd wedi'u cau gan y gweithgynhyrchydd neu gan berson arall y cafwyd y gwenwyn ganddo.

Does dim modd i neb ond y siopwr rhestredig yn bersonol, neu ddirprwy cyfrifol wedi'i enwebu i'r Cyngor, werthu aldicarb, sylweddau arsenaidd neu fercwrïaidd (oni bai eu bod nhw'n cynnwys dim mwy na’r cyfrannau bach o arsenig neu fercwri wedi'u pennu yn Atodlen 1 o'r Rheolau), bariwm carbonat (oni bai ei fod yn rhan o gynhwysion eitem wedi'i pharatoi ar gyfer difa llygod mawr neu lygod), bariwm silicofflworid, carboffwran, seiclohecsimid, deunitrocresolau (ac eithrio trwythau gaeaf sy'n cynnwys dim mwy na 5% o ddeunitrocresolau), dinoseb, drasocsolon, endosylffan, endothal, endrin, cyfansoddion ffentin, methomyl, nicotin, ocsamyl, paracwat, y cyfansoddion ffosfforws a sinc ffosffid (oni bai eu bod nhw'n rhan o gynhwysion eitem wedi'i pharatoi ar gyfer difa llygod mawr neu lygod). Rhaid storio'r gwenwynau hyn naill ai mewn cwpwrdd neu ddrôr wedi'i gadw ar gyfer gwenwynau yn unig, neu mewn rhan o'r safle sydd wedi'i gwahanu gan bared neu sydd ar wahân i weddill y safle mewn modd arall a lle dydy cwsmeriaid ddim yn cael mynediad iddo, neu ar silff wedi'i chadw ar gyfer gwenwynau yn unig, ar yr amod nad oes unrhyw fwyd yn cael ei gadw o dan y silff a bod modd gwahaniaethu drwy gyffwrdd rhwng cynhwysydd y gwenwyn a chynhwysydd sylweddau anwenwynig sy'n cael eu storio gerllaw; ond os yw'r gwenwynau hyn yn rhan o gynhwysion sylweddau sydd i'w defnyddio mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth neu goedwigaeth, rhaid eu storio nhw mewn cwpwrdd neu ddrôr wedi'i gadw ar gyfer gwenwynau yn unig sydd i'w defnyddio yn y fath fodd, neu mewn rhan ar wahân o'r safle lle does dim bwyd yn cael ei gadw.

Troseddau a chosbau

Os bydd person, o flaen unrhyw Lys, yn cael ei ddyfarnu'n euog o unrhyw dramgwydd sydd, ym marn y Llys, yn ei wneud yn anghymwys i gael ei enw ar restr y personau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau sydd ddim at bwrpas meddygol, bydd modd i'r Llys orchymyn tynnu'i enw oddi ar y rhestr, a'i anghymwyso rhag cael ei enw ar unrhyw restr Awdurdod Lleol am ba gyfnod bynnag wedi'i bennu gan y Llys.

Fydd dim modd i unrhyw berson ar y rhestr ddefnyddio unrhyw deitl, arwyddlun neu ddisgrifiad sy'n awgrymu bod ganddo hawl i werthu unrhyw wenwyn nad oes ganddo hawl i'w werthu ac, o'i gael yn euog, bydd y person hwnnw'n agored i ddirwy o hyd at £500, a dirwy bellach o hyd at £5 am bob diwrnod y bydd yn parhau i dorri'r rheol hon.

O gael person yn euog o dorri darpariaethau Deddf Gwenwynau 1972 neu ddarpariaethau'r Rheolau Gwenwynau, neu am fethu â chydymffurfio â hwy, yn agored i ddirwy o hyd at £2,500, a dirwy bellach o hyd at £10 am bob diwrnod y bydd y tramgwydd yn parhau.

Os bydd person:

  • yn fwriadol yn peri oedi i Arolygydd o'r Cyngor, neu yn ei rwystro; neu
  • yn gwrthod caniatáu cymryd samplau; neu
  • yn methu â rhoi gwybodaeth y mae’n ofynnol iddo ei rhoi, o'i gael yn euog bydd yn agored i ddirwy o hyd at £500.

Rhagor o wybodaeth

Mae copïau o Ddeddf Gwenwynau 1972, a deddfwriaeth arall sy'n cael ei chrybwyll yn yr wybodaeth yma, ar gael i'w prynu gan Lyfrfa Ei Mawrhydi.

Mae modd gweld copi o Ddeddf Gwenwynau 1972 yn Swyddfeydd y Cyngor, lle mae modd i chi ofyn am ffurflen gais neu help neu gyngor pellach.