Skip to main content

Arolygu a rheoleiddio

Mae rhan 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007 yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau diwydiannol sydd â'r potensial i achosi niwed i'r amgylchedd neu i iechyd pobl. Mae'r gweithgareddau diwydiannol hyn yn cael eu cyflawni mewn gweithfeydd neu ag offer symudol, ac mae'r rhain i gyd yn cael eu galw'n ‘gyfleusterau a reoleiddir’.

Dyma'r cyfundrefnau rheoli llygredd sydd mewn grym er mwyn diogelu rhag llygredd o'r cyfleusterau a reoleiddir hyn:

  1. System Atal a Rheoli Llygredd mewn ffordd Integredig (IPPC – gweithgareddau Rhan A1) sy'n cael ei rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  2. System Atal a Rheoli Llygredd mewn ffordd Integredig gan Awdurdodau Lleol (LA-IPPC – gweithgareddau Rhan A2) wedi'i rheoleiddio gan yr awdurdod lleol
  3. System Atal a Rheoli Llygredd gan Awdurdodau Lleol (LAPPC – gweithgareddau Rhan B) sy'n cael ei rheoleiddio gan yr awdurdod lleol

    Bydd rhaid i weithredwyr ‘cyfleusterau a reoleiddir’ gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Rheoleiddiwr cyn dechrau'r gweithgaredd. Mae'n drosedd i weithredu cyfleuster a reoleiddir heb drwydded amgylcheddol, neu fynd y tu hwnt i amodau'r drwydded honno.

    Mae'r Rheoleiddiwr yn rhoi cymeradwyaeth ymlaen llaw i weithredwyr cyfleusterau a reoleiddir drwy roi trwydded amgylcheddol. I gael trwydded amgylcheddol bydd rhaid gwneud cais i'r Rheoleiddiwr.

    Dylai pawb sy'n gwneud cais am drwydded amgylcheddol gysylltu â'r Rheoleiddiwr perthnasol i gael arweiniad. Fydd dim amserlen bendant ar gyfer rhoi trwydded. Gall fod hyd at bedwar mis rhwng cyflwyno cais priodol a derbyn trwydded, ac mae'n bosibl bydd hynny'n cynnwys cyfnod o ymgynghori â'r cyhoedd. Bydd modd estyn y cyfnod penderfynu, os bydd angen, drwy gytundeb yr ymgeisydd a'r Rheoleiddiwr. Bydd rhaid anfon ffi â phob cais. Mae'r ffi yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru.

    Bydd rhoi trwydded amgylcheddol yn amodol ar gydymffurfio ag amodau wedi'u pennu gan y Rheoleiddiwr. Mae angen yr amodau hyn er mwyn cadw llygredd i'r lleiaf posibl, a darparu lefel briodol o ddiogelu'r amgylchedd. Mae'r amodau'n cael eu pennu gan roi ystyriaeth i ba fath o gyfleuster a reoleiddir sydd dan sylw, ac i'r ‘technegau gorau sydd ar gael’ sydd wedi'u disgrifio mewn canllawiau statudol.

    Mae'r amodau sydd ynghlwm wrth drwyddedau amgylcheddol ar gyfer cyfleusterau a reoleiddir Rhan A1 a Rhan A2 yn gweithredu rheolaeth ar allyriadau i aer, dŵr a thir er mwyn sicrhau lefel briodol o ddiogelu'r amgylchedd yn ei grynswth. Mae'r amodau sydd ynghlwm wrth drwyddedau amgylcheddol ar gyfer cyfleusterau a reoleiddir Rhan B yn gweithredu rheolaeth ar allyriadau i aer yn unig.

    Yn ogystal â gweithredu rheolaeth ar allyriadau, mae modd i amodau'r trwyddedau ei wneud yn ofynnol i hysbysu am unrhyw newid arwyddocaol i'r cyfleuster a reoleiddir neu newid o ran y gweithredwr.

    Pan fydd trwydded wedi'i rhoi, bydd y Rheoleiddiwr yn archwilio'r cyfleuster a reoleiddir yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y gweithredwr yn cydymffurfio ag amodau'r drwydded. Bydd asesiad risg yn pennu pa mor aml bydd yr archwiliadau. Bydd rhaid talu ffi flynyddol (sy'n cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru) er mwyn talu am gostau archwilio a gweinyddu'r drwydded.

    Mae'n ofynnol bod y Cyngor yn cadw cofrestr gyhoeddus o gyfleusterau a reoleiddir yn y fwrdeistref. Mae'r gofrestr yn cynnwys yr wybodaeth sydd wedi'i nodi yn Atodlen 19 i Reoliadau 2007. Mae'r gofrestr gyhoeddus yn cynnwys manylion pob cyfleuster a reoleiddir dan Ran A(1), Rhan A(2) a Rhan B yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd gweld y gofrestr yn Swyddfa'r Cyngor, Tŷ Elái. Mae modd gweld y gofrestr gyhoeddus, sy'n cynnwys rhestr o'r cyfleusterau a reoleiddir, drwy ddilyn dolen gyswllt ar y dudalen yma. Mae rhestr lawn o'r cyfleusterau a reoleiddir, sy'n cael eu caniatáu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Mae rhagor o ganllawiau manwl, cyfarwyddebau a rheoliadau ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ( www.defra.gov.uk).