Skip to main content

Environmental Permitting

Mae amrywiaeth o weithgareddau diwydiannol wedi cael eu nodi yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a allai beri niwed i'r amgylchedd neu i iechyd pobl. Mae'r Rheoliadau yn pennu'r gweithgareddau yma (ac eithrio rhai gweithgareddau penodol) yn Gyfleusterau a Reoleiddir.   Yn seiliedig ar eu nodweddion, caiff y Cyfleusterau a Reoleiddir yma eu priodoli i ddosbarth ac mae hyn yn pennu'r ffordd y caiff eu rheoleiddio a'r sawl sy'n gyfrifol am eu rheoleiddio. Dyma ddosbarthiadau Cyfleusterau a Reoleiddir:-
  1. gosodiad
  2. peiriant symudol
  3. peiriant llosgi gwastraff bach
  4. gweithgaredd allyrru toddyddion
  5. gweithrediad gwastraff
  6. gweithrediad gwastraff mwyngloddio
  7. gweithgaredd sylweddau ymbelydrol
  8. gweithgaredd gollwng dŵr
  9. gweithgaredd dŵr tir
  10. gweithgaredd risg llifogydd

O'r uchod, dyma'r dosbarthiadau o Gyfleusterau a Reoleiddir y mae'r Awdurdod Lleol fel arfer yn eu rheoleiddio o fewn ardal yr awdurdod hwnnw:- 

  • Gosodiad neu Beiriant Symudol "Rhan A2"
  • Gosodiad neu Beiriant Symudol "Rhan B"
  • Peiriant llosgi gwastraff bach
  • Gweithgaredd allyrru toddyddion

Cyn defnyddio Cyfleuster a Reoleiddir, rhaid i Ddefnyddiwr gael Trwydded Amgylcheddol drwy wneud cais i'r Rheoleiddiwr.  

Gwneud Cais am Drwydded Amgylcheddol 

Dylai pawb sy'n gwneud cais am drwydded amgylcheddol gysylltu â'r Rheoleiddiwr perthnasol i gael arweiniad. Rhaid defnyddio'r ffurflen gais gywir a rhaid rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn galluogi'r Rheoleiddiwr i ystyried y cais yn llawn. Bydd amseroedd aros am Drwydded yn amrywio a gallai gymryd sawl mis. Mae'n bosibl y  bydd yn cynnwys cyfnod o ymgynghori â'r cyhoedd. Bydd raid anfon pob cais gyda'r ffi gywir, y mae Llywodraeth Cymru yn ei phennu. 

Ar ôl ystyried, bydd y Rheoleiddiwr naill ai'n cymeradwyo'r Drwydded Amgylcheddol gan nodi Amodau neu bydd yn gwrthod y cais. Caiff cais ei wrthod os bydd y Rheoleiddiwr yn penderfynu na fyddai'r Unigolyn a gyflwynodd y cais yn gallu defnyddio'r Cyfleuster a Reoleiddir yn unol â'r Drwydded Amgylcheddol awgrymedig.  Yn y ddau achos mae gan yr Unigolyn a gyflwynodd y cais yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. 

Gwneud Cais 

Mae modd cael ffurflen gais drwy anfon e-bost i'r cyfeiriad cyswllt isod neu mae modd cwblhau cais ar-lein drwy'r dolenni canlynol:-

Gwneud cais ar-lein am drwydded amgylcheddol Rhan A(2)

Gwneud cais ar-lein am drwydded amgylcheddol Rhan B

Gwneud cais am newid trwydded amgylcheddol

Y Broses Apelio

Caiff Defnyddiwr apelio os bydd y Rheoleiddiwr yn penderfynu rhoi Amodau mewn perthynas â Thrwydded Amgylcheddol neu eu newid; os bydd yn gwrthod rhoi Trwydded Amgylcheddol neu'n ei newid; os bydd yn cyflwyno hysbysiadau penodol neu os bydd yn gwrthod trosglwyddo Trwydded Amgylcheddol.  Yr Arolygiaeth Gynllunio sy'n ystyried apeliadau ar ran Llywodraeth Cymru. Rhaid cyflwyno apêl yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod amser sydd wedi'i nodi a chan nodi'r rhesymau dros apelio. Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl yn amrywio yn seiliedig ar y math o apêl, ond chwech mis yw'r cyfnod yma ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cais. 

Meddu ar Drwydded Amgylcheddol

Caiff trwydded amgylcheddol ei rhoi yn amodol ar gydymffurfiaeth ag amodau'r Rheoleiddiwr. Mae angen yr Amodau yma i atal cymaint o lygredd â phosibl er mwyn diogelu iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd.  Mae'r Amodau yn cael eu pennu drwy ystyried y math o gyfleuster a Reoleiddir a'r Technegau Gorau sydd ar Gael, er mwyn lleihau a rheoli llygredd, fel sydd wedi'u disgrifio mewn canllawiau statudol.

Bydd Amodau ar Drwyddedau Amgylcheddol Gosodiadau A2 a Pheiriannau Symudol yn ei gwneud yn bosibl rheoli allyriadau i'r awyr, y dŵr a'r tir er mwyn diogelu'r amgylchedd yn ei gyfanrwydd yn effeithiol. Bydd Amodau ar Drwyddedau Amgylcheddol ar gyfer Gosodiadau B neu Beiriannau Symudol, peiriannau llosgi gwastraff bach neu weithgareddau allyrru dyddoddion yn ei gwneud yn bosibl rheoli allyriadau i'r awyr yn unig. 

Mae'n bosibl y bydd y Rheoleiddiwr yn newid Trwydded Amgylcheddol Bresennol os bydd amgylchiadau yn newid neu os caiff cais ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol. 

Os bydd Defnyddiwr Cyfleuster a Reoleiddir yn newid, mae modd trosglwyddo'r Drwydded Amgylcheddol i'r Defnyddiwr newydd drwy wneud cais llwyddiannus. 

Er mwyn cynnal y Drwydded Amgylcheddol mae'n ofynnol i ddeiliad y Drwydded dalu cost gynhaliaeth flynyddol. Caiff hon ei gosod gan Lywodraeth Cymru yn unol â'r egwyddor 'Y Llygrwr sy'n Talu'. 

Gorfodi Trwydded 

Ar ôl i Drwydded Amgylcheddol gael ei rhoi, bydd y Rheoleiddiwr yn archwilio'r Cyfleuster a Reoleiddir yn rheolaidd er mwyn gwirio bod y Defnyddiwr yn cydymffurfio ag Amodau'r Drwydded. Caiff amlder yr archwiliadau ei bennu yn unol â'r dull o asesu risg y mae Llywodraeth Cymru yn ei bennu. 

Mae'n drosedd peri neu ganiatáu i Gyfleuster a Reoleiddir gael ei ddefnyddio heb y Drwydded Amgylcheddol briodol. Mae methu â chydymffurfio ag Amod Trwydded Amgylcheddol neu weithredu'n groes iddo hefyd yn drosedd.  Mae modd i'r Rheoleiddiwr gymryd amrywiaeth eang o gamau gweithredu yn unol â'i Bolisi Gorfodi er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. 

Ildio Trwydded  

Os bydd deiliad y Drwydded Amgylcheddol am stopio'r gweithgaredd diwydiannol, bydd raid iddo ildio'r Drwydded Amgylcheddol yn ffurfiol drwy ddefnyddio'r ffurflen gywir.   Os na fyddwch chi'n gneud hynny, gallai fod costau ychwanegol. 

Y Gofrestr Gyhoeddus 

Mae'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr gynnal Cofrestr Gyhoeddus o wybodaeth y mae Defnyddwyr yn ei chyflwyno iddyn nhw e.e. manylion ceisiadau a chanlyniadau monitro allyriadau. Mae mynegai o Gofrestr Gyhoeddus Rhondda Cynon Taf wedi cael ei chyhoeddi ar y dudalen we yma ac mae'n nodi'r Cyfleusterau a Reoleiddir y mae'r Cyngor yn eu caniatáu. Mae'r Gofrestr Gyhoeddus gyfan ar gael ar gyfer ei harchwilio yn ystod oriau swyddfa yn y cyfeiriad isod.

Ymgynghoriadau 

Ar ôl cael ceisiadau penodol, bydd yr Awdurdod Lleol yn cynnal ymgynghoriad gyda'r sawl a allai fod â diddordeb, gan gynnwys y cyhoedd.  Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal ymgynghoriad ar y canlynol:-  

Dim

Mae'r 'Gofrestr Trwyddedau Amgylcheddol Gyhoeddus' yn cynnwys manylion am bob cais ac mae modd gweld y rhain rhwng 9am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad isod. 

Rhaid anfon unrhyw sylwadau am y cais yma'n ysgrifenedig i'r cyfeiriad cyswllt isod, a rhaid iddyn nhw gyrraedd cyn dyddiad dod i ben yr ymgynghoriad, sydd wedi'i nodi uchod.  Caiff cofnod ei gadw o bob sylw a chaiff ei gyhoeddi gydag enw'r unigolyn a'i gwnaeth, heblaw y mae wedi nodi'n benodol nad yw am i hynny ddigwydd.

Cysylltwch â Ni

Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001