Skip to main content

Trwydded Gweithredu Pont Bwyso - Canllawiau

Gofynion cyfreithiol

Deddf Pwysau a Mesuriadau 1985

Adran 18 Rhaid i weithredwyr offer pwyso cyhoeddus fod yn ddeiliaid  tystysgrif cymhwysedd gan Brif Swyddog Safonau Masnach

Adran 19 i) Rhaid iddyn nhw gynnal pwyso le bo gofyn oni bai fod ganddyn nhw achos rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

  • (ii) Rhaid cynnal y pwyso mewn modd teg
  • iii) Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o'r pwysau gael ei roi i'r person sydd angen y pwyso
  • iv) Rhaid gwneud cofnod manwl o'r canlynol:
  1. amser
  2. dyddiad
  3. manylion adnabod y cerbyd
  4. manylion adnabod y llwyth ar y cerbyd
  • v) Ni ddylid gwneud cofnod ffug, na rhoi datganiad ffug
  • vi) Ni ddylid twyllo
  • vii) Dylai personau sy'n dod ag eitem i gael ei phwyso roi'u henw a'u cyfeiriad i'r gweithredwr lle bo gofyn
  • viii) Rhaid cadw cofnodion pwyso am ddwy flynedd
  • ix) Ddylai'r cofnod ddim cael ei ddinistrio na'i ddifwyno o fewn dwy flynedd

Rheoliadau Offer Pwyso (Peiriannau Pwyso Awtomatig Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd) 1988 Rheoliad 4(7): Does dim hawl gan unrhyw berson gynnal 'pwyso dwbl' at ddibenion masnach.

Telerau

Cydbwysedd - Pan nad oes eitem(au) ar y bont bwyso, mae'r arwydd yn dangos sero.

Pwysau Gros - Dyma bwysau'r cerbyd llawn ac arwydd o gyfanswm y pwysau ar y bont.

Pwysau Gros Cerbydau (GVW)

Pwysau Gweili - Dyma bwysau'r cerbyd heb nwyddau, h.y. y pwysau y byddwch chi'n eu defnyddio i gyfrifo llwyth y cerbyd.

Pwysau Net - Pwysau gros minws y Pwysau Gweili h.y. pwysau'r llwyth.

Pwysau Llusgo - Tebyg i Bwysau Gros ac yn cyfeirio at gyfanswm pwysau cerbyd cymalog (tractor a threlar). Ar ddogfennaeth pont bwyso cyfeirir at hwn fel pwysau gros.

Pwysau Llusgo Gros (GTW)

Peirianwaith Uchaf (Headwork) - Y rhan o'r peiriant sy'n cynnwys yr arwyddion pwysau.

Peirianwaith Isaf (Bottom Work) - Y liferi a'r celloedd pwyso (loadcells) islaw'r plât.

Plât/Llwyfan - Dyma lle y rhoir y llwyth i'w bwyso.

Pwyso-dwbl - Pwyso llwyth neu gerbyd mewn dau neu ragor o gamau. e.e. lle bo cerbyd cymalog yn rhy fawr i fynd ar blât, mae'i bwysau yn cael ei gyfrifo drwy adio pwysau'r echeli blaen a'r echeli cefn.

Pwyso Echelau - Pwyso echelau unigol neu grwpiau o echelau i bennu'r llwyth sy'n cael ei roi ar eu pennau nhw.

Uned Bar Tynnu - Cerbyd anhyblyg yn tynnu drwy far a threlar hunangynhaliol.

GVW a ganiateir

GTW a ganiateir - y pwysau mwyaf a ganiateir ar y ffordd yn ôl y gyfraith.

Pwyso - Arfer Da

1) Dylid cynnal gwiriadau yn rheolaidd i sicrhau bod cliriad rhwng y plât a'i ffrâm amgylchynol. Os yw'r peiriant pwyso yn cael ei weithredu trwy ddefnyddio peirianwaith isaf â lifer, dylai'r plât allu symud yn ôl ac ymlaen yn rhydd yn ei hyd.

2) Dylai gwiriadau rheolaidd gael eu gwneud i sicrhau bod y bont bwyso wedi'i chydbwyso'n gywir heb lwyth, ac mai sero yw'r darlleniad ar y dangosydd. Mae rhaid bod Gweithredwr y Bont Bwyso'n gwybod sut mae cydbwyso'r peiriant pwyso.

3) Bydd cydbwysedd pont bwyso yn cael ei effeithio gan faw sy'n ymgasglu ar, neu o gwmpas, y plât. Dylai'r plât gael ei lanhau'n rheolaidd er mwyn osgoi hynny.

O dan y plât, gall liferi a chelloedd llwyth gael eu heffeithio gan faw (tywod) yn ymgasglu, a dylen nhw gael eu glanhau fel y bo angen. Os yw hynny'n tueddu digwydd gyda'ch pont bwyso chi, dylai rhaglen cynnal a chadw reolaidd gael ei gweithredu.

Mewn pont bwyso sydd wedi'i gosod ar bwll, mae'n bosibl y bydd cydbwysedd a chywirdeb yn cael eu heffeithio gan lefel uchel o ddŵr yn y pwll, sydd yn achosi lifer gwaelod yr offer i arnofio. Mewn amgylchiadau lle mae cyfleusterau pwmpio ar gael, bydd disgwyl i Weithredwr y Bont Bwyso wybod sut i'w defnyddio.

Achos mwyaf cyffredin gwallau o ran y cydbwysedd yw glaw ar y plât. Yn ystod cyfnodau o law, dylai'r cydbwysedd gael ei wirio a'i addasu'n fwy aml ac eto, wrth i'r plât sychu.

Gweithdrefnau Pwyso

1) Mae'n ddoeth i bwyso pob cerbyd heb deithwyr neu yrrwr. Os nad yw hynny'n bosibl, neu os yw'r personél yn gwrthod gadael y cerbyd, dylai nodyn i'r perwyl hwn gael ei wneud sy'n rhoi'r nifer o unigolion yn y cerbyd. Dylai'r nodyn yma gael ei roi ar y tocyn ac ar unrhyw gofnod arall.

Mae'r wybodaeth yma'n angenrheidiol oherwydd efallai y bydd unigolion penodol yn dymuno cynyddu pwysau gros y llwyth drwy ychwanegu teithwyr ac os yw'r pwysau gweili yn cael ei gymryd heb deithwyr, bydd pwysau'r llwyth yn ymddangos yn drymach.

Dylai gweithredwyr pontydd pwyso gymryd gofal arbennig os oes teithwyr ar y plât neu'n agos ato.

2) Lle bo'n ymarferol, dylai gweithredwr y bont bwyso wirio'r llwyth ei hun ac os nad yw hynny'n bosibl, dylai'r tocyn ddangos y llwyth fel y nodwyd gan y gyrrwr.

Dylai Gweithredwyr Pontydd Pwyso fod yn effro i'r ffaith y gall unigolion sy'n dod â llwythi i'w pwyso guddio eitemau trwm ymhlith y llwyth a nodwyd. Yna, mae modd cael gwared ar yr eitem drwm yma a gall y nwyddau gael eu dosbarthu i'r prynwr.

e.e. blociau concrid gyda metel sgrap. Nodir bod y llwyth yn fetel sgrap ac yn dilyn y pwyso mae'r concrit yn cael ei waredu a'r metel sgrap yn cael ei werthu ar y pwysau uwch. Felly, er mwyn llenwi'r tocyn yn briodol, byddai 'metel sgrap / concrid' yn cael ei nodi arno.

3) Dylai'r gweithredwr wirio unrhyw rif cofrestru ei hunan yn hytrach na dibynnu ar y gyrrwr.

4) Dylai Gweithredwr y Bont Bwyso allu gweld y plât yn glir a sicrhau bod y cerbyd sy'n cael ei bwyso yn cael ei leoli ar y plât. Dylai gweithredwyr fod yn ymwybodol y gall unigolion sydd angen pwyso'u cerbydau adael olwyn dros ymyl y plât i leihau'r pwysau. Maen nhw'n gwneud hynny i leihau'r pwysau gweili er mwyn cynyddu pwysau ymddangosiadol y llwyth neu i ymddangos yn is na'r pwysau a ganiateir at ddibenion gorlwytho.

5) Mae'n anghyfreithlon i gynnal pwyso dwbl lle bydd y pwyso yn cael ei ddefnyddio ar gyfer trafodiad masnach. e.e. llwyth o wair i'w werthu mewn man arall.

Mae gyrwyr weithiau angen pwyso er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n gorlwytho echelau unigol.

Caniateir pwyso echelau unigol ond dylai'r tocyn a'r cofnodion ddangos yn glir pa fath o bwyso a wnaed, a pha echelau a bwyswyd.

Dylid cymeradwyo'r tocyn gyda'r geiriau - "Nid at ddiben masnach mae'r pwysau a gymerwyd".

Tocyn Pont Bwyso

  •  Rhaid i Weithredwr Pont Bwyso roi datganiad ysgrifenedig o'r pwysau i'r person sydd yn gofyn am y pwysau neu i'w asiant (gall hyn fod yn drefniant ffurfiol neu'n anffurfiol ond dylai'r datganiad fynd gyda'r cerbyd  bob amser)
  • Rhaid iddo roi'r pwysau yn y blwch GROS (GROSS) neu GWEILI (TARE) ar docyn y bont bwyso fel y bo'n briodol
  • Os cyhoeddir y tocyn, yna rhaid i weithredydd y bont bwyso roi HEB EI BWYSO neu dynnu llinellau trwy'r mannau a ddarperir ar gyfer y cofnodion eraill. Chaiff gweithredwyr DDIM rhoi pwysau a gafodd ei ddatgan gan y GYRRWR. Dylid cofnodi pwysau a bennir gan y bont bwyso yn unig.
  • Os yw'r gyrrwr yn bwriadu dychwelyd ar gyfer ail-bwyso’r un cerbyd a chofnodi hynny ar yr un tocyn, dylai'r tocyn hwnnw gael ei gadw hyd nes y bydd ar ail-bwyso wedi cael ei gwblhau. Dylai gweithredwr pont bwyso byth roi tocyn gyda lleoedd gwag.
  • Rhaid iddo roi'r manylion eraill gofynnol ar y tocyn.

NODER: Yn aml, pan ddefnyddir offer pen (headwork) electronig gydag argraffydd tocynnau, mae'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo - yn rhannol neu'n gyfan gwbl -  i'r tocyn. Serch hynny, os bydd hyn yn methu, bydd rhaid cadw cofnodion llawn a chyfrifo'r ffigyrau yn gywir.

Cofnodion

Rhaid i weithredydd y bont bwyso sicrhau bod cofnod o bob pwysiad yn cael ei wneud. Rhaid cadw'r cofnodion yma am o leiaf 2 flynedd. Os copi o'r tocyn pont bwyso yw'r unig gofnod o'r pwysiad, rhaid iddo hefyd gynnwys:

  • Amser y pwysiad
  • Rhif cofrestru'r cerbyd (os yw'n berthnasol)
  • Y pwysau
  • Y dyddiad
  • Natur y llwyth

Os yw Gweithredwr Pont Pwyso yn amau unrhyw anghysondebau ynglŷn â chais am bwysiad neu ddefnydd pwysiad, dylai'i swyddfa Safonau Masnach leol gael ei hysbysu.

Y gosb uchaf am dwyll mewn cysylltiad â phwyso cyhoeddus yw dirwy o £5,000 neu chwe mis o garchar, neu'r ddau. Y gosb uchaf am gofnodi pwysau ffug yw dirwy o £5,000.

Ddeddf Traffig Ffyrdd (gorlwytho cerbyd)

Er nad yw'n fater i weithredwr pont bwyso mewn gwirionedd, byddai'r Awdurdod yma'n disgwyl i'r gweithredwr fod â gwybodaeth sylfaenol am bwysau cerbydau.

Os, ar ôl pwyso cerbyd, mae Gweithredydd Pont Bwyso yn amau bod y pwysau'n uwch na'r hyn sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer y cerbyd ar y briffordd, dylai dynnu sylw'r gyrrwr at y cofnod pwysau. Yn ogystal â hynny, dylai'r tocyn nodi bod y cerbyd 'wedi'i orlwytho o bosibl'.

Does dim hawl gan Weithredwr y Bont Bwyso i wneud y canlynol:

  • cadw tocyn y bont bwyso
  • atal y cerbyd rhag gadael

Taflen Hunanasesu

Os nad ydych chi'n gallu ateb y cwestiynau canlynol, byddwn ni'n eich annog chi i ailddarllen y llyfryn a thrafod y mater gyda'ch goruchwyliwr.

1. Ydych chi'n gallu gweithredu'r offer pwyso yn hyderus?

2. Ymhle mae'r 'tocyn copi' / cofnodion yn cael eu cadw?

3. Oes hawl gyda chi i wrthod ymgymryd â phwyso cyhoeddus?

4. Os OES yw'r ateb i (3), pryd?

5. Pa fanylion sydd raid eu rhoi yn y cofnodion?

6. Fyddech chi'n pwyso 'ceffyl'?

7. Pa mor hir y dylid cadw cofnodion?

8. Beth yw ystyr Pwyso Dwbl Pwysau Net Cydbwyso?

9. Beth fydd yn digwydd i'r 'cydbwysedd' pan mae hi'n bwrw glaw?

10. Beth wnewch chi os bydd teithwyr yn gwrthod dod allan o'r cerbyd?

11. Os na allwch chi weld y llwyth, beth fyddwch chi'n ei wneud?

12. Mae'r cerbyd yn rhy hir i'w osod ar blât eich pont bwyso. Beth fyddwch chi'n ei wneud?

13. Pam na ddylech chi adael bylchau ar y tocyn pont bwyso?

14. Pam byddai 'pobl' sy'n dod ag eitemau i'w pwyso yn ceisio'ch camarwain chi?

Gofynion cyfreithiol

Deddf Pwysau a Mesuriadau 1985

Adran 18 Rhaid i weithredwyr offer pwyso cyhoeddus fod yn ddeiliaid  tystysgrif cymhwysedd gan Brif Swyddog Safonau Masnach

Adran 19 i) Rhaid iddyn nhw gynnal pwyso le bo gofyn oni bai fod ganddyn nhw achos rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

(ii) Rhaid cynnal y pwyso mewn modd teg

iii) Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o'r pwysau gael ei roi i'r person sydd angen y pwyso

iv) Rhaid gwneud cofnod manwl o'r:

• amser

dyddiad

manylion adnabod y cerbyd

manylion adnabod y llwyth ar y cerbyd

v) Ni ddylid gwneud cofnod ffug, na rhoi datganiad ffug

vi) Ni ddylid twyllo

vii) Dylai personau sy'n dod ag eitem i gael ei phwyso roi'i enw a'i gyfeiriad i'r gweithredwr lle bo gofyn

viii) Rhaid cadw cofnodion pwyso am ddwy flynedd

ix) Ddylai'r cofnod ddim cael ei ddinistrio na'i ddifwyno o fewn dwy flynedd

Rheoliadau Offer Pwyso (Peiriannau Pwyso Awtomatig Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd) 1988 Rheoliad 4(7): Does dim hawl gan unrhyw berson gynnal 'pwyso dwbl' at ddibenion masnach.

Telerau

Cydbwysedd - Pan nad oes eitem(au) ar y bont bwyso, mae'r arwydd yn dangos sero.

Pwysau Gros - Dyma bwysau'r cerbyd llawn ac arwydd o gyfanswm y pwysau ar y bont.

Pwysau Gros Cerbydau

Pwysau Gweili - Dyma bwysau'r cerbyd heb nwyddau, h.y. y pwysau y byddwch chi'n eu defnyddio i gyfrifo llwyth y cerbyd.

Pwysau Net - Pwysau gros minws y Pwysau Gweili h.y. pwysau'r llwyth.

Pwysau Llusgo - Tebyg i Bwysau Gros ac yn cyfeirio at gyfanswm pwysau cerbyd cymalog (tractor a threlar). Ar ddogfennaeth pont bwyso cyfeirir at hwn fel pwysau gros.

Pwysau Llusgo Gros (GTW)

Peirianwaith Uchaf (Headwork) - Y rhan o'r peiriant sy'n cynnwys yr arwyddion pwysau.

Peirianwaith Isaf (Bottom Work) - Y liferi a'r celloedd pwyso (loadcells) islaw'r plât.

Plât/Llwyfan - Dyma lle y rhoir y llwyth i'w bwyso.

Pwyso-dwbl - Pwyso llwyth neu gerbyd mewn dau neu ragor o gamau. e.e. lle bo cerbyd cymalog yn rhy fawr i fynd ar blât, mae'i bwysau yn cael ei gyfrifo drwy adio pwysau'r echeli blaen a'r echeli cefn.

Pwyso Echelau - Pwyso echelau unigol neu grwpiau o echelau i bennu'r llwyth sy'n cael ei roi ar eu pennau nhw.

Uned Bar Tynnu - Cerbyd anhyblyg yn tynnu drwy far a threlar hunangynhaliol.

GVW a ganiateir

GTW a ganiateir - y pwysau mwyaf a ganiateir ar y ffordd yn ôl y gyfraith.

Pwyso - Arfer Da

1) Dylid cynnal gwiriadau yn rheolaidd i sicrhau bod cliriad rhwng y plât a'i ffrâm amgylchynol. Os yw'r peiriant pwyso yn cael ei weithredu trwy ddefnyddio peirianwaith isaf â lifer, dylai'r plât allu symud yn ôl ac ymlaen yn rhydd yn ei hyd.

2) Dylai gwiriadau rheolaidd gael eu gwneud i sicrhau bod y bont bwyso wedi'i chydbwyso'n gywir heb lwyth, ac mai sero yw'r darlleniad ar y dangosydd. Mae rhaid bod Gweithredwr y Bont Bwyso'n gwybod sut mae cydbwyso'r peiriant pwyso.

3) Bydd cydbwysedd pont bwyso yn cael ei effeithio gan faw sy'n ymgasglu ar, neu o gwmpas, y plât. Dylai'r plât gael ei lanhau'n rheolaidd er mwyn osgoi hynny.

O dan y plât, gall liferi a chelloedd llwyth gael eu heffeithio gan faw (tywod) yn ymgasglu, a dylen nhw gael eu glanhau fel y bo angen. Os yw hynny'n tueddu digwydd gyda'ch pont bwyso chi, dylai rhaglen cynnal a chadw reolaidd gael ei gweithredu.

Mewn pont bwyso sydd wedi'i gosod ar bwll, mae'n bosibl y bydd cydbwysedd a chywirdeb yn cael eu heffeithio gan lefel uchel o ddŵr yn y pwll, sydd yn achosi lifer gwaelod yr offer i arnofio. Mewn amgylchiadau lle mae cyfleusterau pwmpio ar gael, bydd disgwyl i Weithredwr y Bont Bwyso wybod sut i'w defnyddio.

Achos mwyaf cyffredin gwallau o ran y cydbwysedd yw glaw ar y plât. Yn ystod cyfnodau o law, dylai'r cydbwysedd gael ei wirio a'i addasu'n fwy aml ac eto, wrth i'r plât sychu.

Gweithdrefnau Pwyso

1) Mae'n ddoeth i bwyso pob cerbyd heb deithwyr neu yrrwr. Os nad yw hynny'n bosibl, neu os yw'r personél yn gwrthod gadael y cerbyd, dylai nodyn i'r perwyl hwn gael ei wneud sy'n rhoi'r nifer o unigolion yn y cerbyd. Dylai'r nodyn yma gael ei roi ar y tocyn ac ar unrhyw gofnod arall.

Mae'r wybodaeth yma'n angenrheidiol oherwydd efallai y bydd unigolion penodol yn dymuno cynyddu pwysau gros y llwyth drwy ychwanegu teithwyr ac os yw'r pwysau gweili yn cael ei gymryd heb deithwyr, bydd pwysau'r llwyth yn ymddangos yn drymach.

Dylai gweithredwyr pontydd pwyso gymryd gofal arbennig os oes teithwyr ar y plât neu'n agos ato.

2) Lle bo'n ymarferol, dylai gweithredwr y bont bwyso wirio'r llwyth ei hun ac os nad yw hynny'n bosibl, dylai'r tocyn ddangos y llwyth fel y nodwyd gan y gyrrwr.

Dylai Gweithredwyr Pontydd Pwyso fod yn effro i'r ffaith y gall unigolion sy'n dod â llwythi i'w pwyso guddio eitemau trwm ymhlith y llwyth a nodwyd. Yna, mae modd cael gwared ar yr eitem drwm yma a gall y nwyddau gael eu dosbarthu i'r prynwr.

e.e. blociau concrid gyda metel sgrap. Nodir bod y llwyth yn fetel sgrap ac yn dilyn y pwyso mae'r concrit yn cael ei waredu a'r metel sgrap yn cael ei werthu ar y pwysau uwch. Felly, er mwyn llenwi'r tocyn yn briodol, byddai 'metel sgrap / concrid' yn cael ei nodi arno.

3) Dylai'r gweithredwr wirio unrhyw rif cofrestru ei hunan yn hytrach na dibynnu ar y gyrrwr.

4) Dylai Gweithredwr y Bont Bwyso allu gweld y plât yn glir a sicrhau bod y cerbyd sy'n cael ei bwyso yn cael ei leoli ar y plât. Dylai gweithredwyr fod yn ymwybodol y gall unigolion sydd angen pwyso'u cerbydau adael olwyn dros ymyl y plât i leihau'r pwysau. Maen nhw'n gwneud hynny i leihau'r pwysau gweili er mwyn cynyddu pwysau ymddangosiadol y llwyth neu i ymddangos yn is na'r pwysau a ganiateir at ddibenion gorlwytho.

5) Mae'n anghyfreithlon i gynnal pwyso dwbl lle bydd y pwyso yn cael ei ddefnyddio ar gyfer trafodiad masnach. e.e. llwyth o wair i'w werthu mewn man arall.

Mae gyrwyr weithiau angen pwyso er mwyn sicrhau nad ydyn nhw'n gorlwytho echelau unigol.

Caniateir pwyso echelau unigol ond dylai'r tocyn a'r cofnodion ddangos yn glir pa fath o bwyso a wnaed, a pha echelau a bwyswyd.

Dylid cymeradwyo'r tocyn gyda'r geiriau - "Nid at ddiben masnach mae'r pwysau a gymerwyd".

Tocyn Pont Bwyso

Rhaid i Weithredwr Pont Bwyso roi datganiad ysgrifenedig o'r pwysau i'r person sydd yn gofyn am y pwysau neu i'w asiant (gall hyn fod yn drefniant ffurfiol neu'n anffurfiol ond dylai'r datganiad fynd gyda'r cerbyd  bob amser)

Rhaid iddo roi'r pwysau yn y blwch GROS (GROSS) neu GWEILI (TARE) ar docyn y bont bwyso fel y bo'n briodol

Os cyhoeddir y tocyn, yna rhaid i weithredydd y bont bwyso roi HEB EI BWYSO neu dynnu llinellau trwy'r mannau a ddarperir ar gyfer y cofnodion eraill. Chaiff gweithredwyr DDIM rhoi pwysau a gafodd ei ddatgan gan y GYRRWR. Dylid cofnodi pwysau a bennir gan y bont bwyso yn unig.

Os yw'r gyrrwr yn bwriadu dychwelyd ar gyfer ail-bwyso’r un cerbyd a chofnodi hynny ar yr un tocyn, dylai'r tocyn hwnnw gael ei gadw hyd nes y bydd ar ail-bwyso wedi cael ei gwblhau. Dylai gweithredwr pont bwyso byth roi tocyn gyda lleoedd gwag.

Rhaid iddo roi'r manylion eraill gofynnol ar y tocyn.

NODER: Yn aml, pan ddefnyddir offer pen (headwork) electronig gydag argraffydd tocynnau, mae'r wybodaeth yn cael ei throsglwyddo - yn rhannol neu'n gyfan gwbl -  i'r tocyn. Serch hynny, os bydd hyn yn methu, bydd rhaid cadw cofnodion llawn a chyfrifo'r ffigyrau yn gywir.

Cofnodion

Rhaid i weithredydd y bont bwyso sicrhau bod cofnod o bob pwysiad yn cael ei wneud. Rhaid cadw'r cofnodion yma am o leiaf 2 flynedd. Os copi o'r tocyn pont bwyso yw'r unig gofnod o'r pwysiad, rhaid iddo hefyd gynnwys:

  • Amser y pwysiad
  • Rhif cofrestru'r cerbyd (os yw'n berthnasol)
  • Y pwysau
  • Y dyddiad
  • Natur y llwyth

Os yw Gweithredwr Pont Pwyso yn amau unrhyw anghysondebau ynglŷn â chais am bwysiad neu ddefnydd pwysiad, dylai'i swyddfa Safonau Masnach leol gael ei hysbysu.

Y gosb uchaf am dwyll mewn cysylltiad â phwyso cyhoeddus yw dirwy o £5,000 neu chwe mis o garchar, neu'r ddau. Y gosb uchaf am gofnodi pwysau ffug yw dirwy o £5,000.

Ddeddf Traffig Ffyrdd (gorlwytho cerbyd)

Er nad yw'n fater i weithredwr pont bwyso mewn gwirionedd, byddai'r Awdurdod yma'n disgyl i'r gweithredwr fod â gwybodaeth sylfaenol am bwysau cerbydau.

Os, ar ôl pwyso cerbyd, mae Gweithredydd Pont Bwyso yn amau bod y pwysau'n uwch na'r hyn sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer y cerbyd ar y briffordd, dylai dynnu sylw'r gyrrwr at y cofnod pwysau. Yn ogystal â hynny, dylai'r tocyn nodi bod y cerbyd 'wedi'i orlwytho o bosibl'.

Does dim hawl gan Weithredwr y Bont Bwyso i wneud y canlynol:

  • cadw tocyn y bont bwyso
  • atal y cerbyd rhag gadael

Taflen Hunanasesu

Os nad ydych chi'n gallu ateb y cwestiynau canlynol, byddwn ni'n eich annog chi i ailddarllen y llyfryn a thrafod y mater gyda'ch goruchwyliwr.

1. Ydych chi'n gallu gweithredu'r offer pwyso yn hyderus?

2. Ymhle mae'r 'tocyn copi' / cofnodion yn cael eu cadw?

3. Oes hawl gyda chi i wrthod ymgymryd â phwyso cyhoeddus?

4. Os OES yw'r ateb i (3), pryd?

5. Pa fanylion sydd raid eu rhoi yn y cofnodion?

6. Fyddech chi'n pwyso 'ceffyl'?

7. Pa mor hir y dylid cadw cofnodion?

8. Beth yw ystyr Pwyso dwbl Pwysau Net Cydbwyso?