Skip to main content

Archwiliad diogelwch bwyd

Mae'r Cyngor yn cynnal archwiliad rheolaidd ym mhob safle bwyd i sicrhau diogelwch y cyhoedd a chynnal safonau uchel.

Mae ymweliadau â safleoedd yn cael eu cynnal heb roi gwybod ymlaen llaw. Mae'r safleoedd bwyd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl gradd eu risg bosibl. Mae'r dull yma'n sicrhau ymweliadau amlach â safleoedd risg uchel.  Mae'r rhan fwyaf o fusnesau bwyd yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Bwyta allan?
Prynu bwyd i mewn?
Cofiwch edrych ar y sgôr hylendid bwyd!

Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn eich helpu chi i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd. Mae'r cynllun yn rhoi gwybodaeth i chi am y safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai a lleoedd eraill rydych chi'n hoffi bwyta allan ynddyn nhw, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Sut mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn gweithio?

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithredu'r cynllun yn unol â gofynion Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Mae'r cynllun gorfodol yma wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau lleol. Mae'n rhoi gwybodaeth i chi am safonau hylendid safleoedd bwyd ar yr adeg y cawson nhw eu harchwilio gan un o'n swyddogion diogelwch bwyd i wirio eu bod nhw'n cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol o ran hylendid bwyd. Mae'r sgôr hylendid sy'n cael ei rhoi yn adlewyrchu'r hyn mae'r swyddog yn ei ganfod ar y pryd. 

Nid yw'n hawdd pwyso a mesur safonau hylendid yn ôl ymddangosiad busnes yn unig, felly, mae'r sgôr yn rhoi syniad i chi o beth sy'n mynd ymlaen yn y gegin, neu'r tu ôl i ddrysau caeedig. Mae modd i chi chwilio am sgoriau a defnyddio'r wybodaeth i ddewis rhywle â safonau uwch. Mae hefyd yn syniad da rhannu'r wybodaeth yma â theulu a ffrindiau. 

Pam mae'r cynllun yn bwysig?

Mae darparu gwybodaeth am safonau hylendid mewn siopau bwyd yn rhoi sail ehangach i bobl i wneud penderfyniad.  Mae hefyd yn cydnabod y busnesau hynny â'r safonau uchaf ac yn annog eraill i wella. Y nod, ar y cyfan, yw lleihau nifer yr achosion o wenwyn bwyd sydd, ar hyn o bryd, yn effeithio ar tua miliwn o bobl bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r cynllun yng Nghymru yn cael ei weithredu yn unol â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), ond, mae'r cynllun hefyd ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae'r sgoriau'n seiliedig ar yr un wybodaeth. Felly, mae'r cynllun yn helpu pobl leol ac ymwelwyr i benderfynu ble i fwyta a phrynu bwyd, ac mae'n golygu bod modd i bobl gymharu busnesau mewn ardaloedd gwahanol.

Pa fusnesau sy'n cael eu sgorio?

Mae bwytai, siopau tecawê, caffis, siopau brechdanau, tafarndai, gwestai, archfarchnadoedd a safleoedd eraill sy'n gwerthu bwyd, yn ogystal â busnesau eraill lle mae modd i ddefnyddwyr brynu neu fwyta bwyd, i gyd yn cael sgôr hylendid o dan y cynllun.

Sut mae'r sgôr yn cael ei chyfrifo?

Mae pob busnes yn cael sgôr yn dilyn archwiliad gan swyddog diogelwch bwyd. Mae'r sgôr yma'n seiliedig ar ba mor dda mae'r busnes yn bodloni gofynion cyfraith hylendid bwyd yn yr archwiliad. Mae'r asesiad yn seiliedig ar y tair elfen ganlynol:

  • Pa mor hylan y caiff bwyd ei drin – paratoi, coginio, ail-gynhesu, oeri a storio bwyd yn ddiogel.
  • Cyflwr strwythur y safle – glanweithdra, cyflwr, cynllun, golau, awyru, a chyfleusterau eraill.
  • Sut mae'r busnes yn rheoli'r hyn mae'n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel fel y bod modd i'r swyddog fod yn hyderus bod y safonau yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

Mae pob un o'r elfennau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn bodloni'r gofynion a bod y bwyd sy'n cael ei weini neu ei werthu i chi yn ddiogel i'w fwyta. 

Mae'r sgôr yn ymwneud â safonau hylendid y busnes bwyd yn unig. Nid yw'n ymwneud â safon y bwyd na safon y gwasanaeth a sy'n cael ei roi i gwsmeriaid.

Beth yw'r gwahanol sgoriau?

Mae busnes yn cael un o'r sgoriau hyn:

Food-Hygiene-Ratings

Dylai'r sgôr uchaf o ‘5’ fod o fewn cyrraedd pob busnes. 

Mae'r sgôr sy'n cael ei rhoi yn dangos pa mor dda mae'r busnes yn ei wneud ar y cyfan, ond, mae hefyd yn ystyried y pethau sydd angen eu newid fwyaf a lefel y risg mae'r materion hyn yn ei pheri i iechyd pobl. Bydd rhai busnesau'n gwneud yn dda mewn rhai meysydd, ond ddim cystal mewn rhai eraill. Fodd bynnag, mae pob un o'r tair elfen sy'n cael eu gwirio yn hanfodol er mwyn sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn bodloni'r gofynion a bod y bwyd sy'n cael ei weini neu ei werthu i chi yn ddiogel i'w fwyta.

I gael y sgôr uchaf o ‘5’, mae'n rhaid i fusnesau wneud yn dda yn y tair elfen.

Mae'r rheiny sydd â sgôr o ‘0’ yn debygol iawn o fod yn perfformio'n wael ym mhob un o'r tair elfen ac yn debygol o fod â hanes o broblemau difrifol.   Er enghraifft, mae'n bosibl bod diffyg prosesau glanhau a diheintio, ac efallai dydy'r system reoli sydd ar waith ddim yn ddigonol i sicrhau bod bwyd yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser. 

Pan fydd busnes ddim yn cael y sgôr uchaf, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn egluro i'r sawl sy'n rheoli'r busnes, neu sy'n berchen arno, pa welliannau sydd eu hangen. 

Beth mae modd i fusnesau ei wneud i wella, os oes gofyn iddyn nhw wneud hynny?

Mae modd i berchnogion a rheolwyr busnesau ddod o hyd i ragor o wybodaeth am beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i gael y sgôr uchaf bosibl drwy gysylltu ag aelod o Garfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch y Cyngor.  Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Carfan Bwyd ac Iechyd a Diogelwch y Cyngor i'w gweld isod.

Ble bydd y sgôr hylendid yn cael ei harddangos?

Mae busnesau'n cael sticer i ddangos eu sgôr. O 28 Tachwedd 2013, bydd yn rhaid i'r busnesau hynny sy'n cael sticer ‘newydd’ y cynllun, sy'n cynnwys logo Llywodraeth Cymru, ei arddangos mewn lle amlwg – megis prif ddrws, fynedfa neu ffenestr y busnes – a rhoi gwybodaeth am eu sgôr ar lafar, os bydd rhywun yn holi.

Mae modd i chi chwilio am sgoriau busnesau lleol ac am fusnesau ledled Cymru. Mae modd i chi hefyd chwilio am sgoriau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cynllun tebyg – y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd – yn cael ei weithredu yn yr Alban ac mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan yma.   Mae’n bosibl chwilio am sgoriau hylendid bwyd drwy ratings.food.gov.uk/cy-GB a chlicio ar ‘Cymraeg’.

Oes rhagor o wybodaeth ar gael?

Mae modd darllen am y cynllun ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd,

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Ty Elai,
Dinas Isaf East,
Trewiliam,
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
Tudalennau Perthnasol