Skip to main content

Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro

Cyflwynodd Deddf Trwyddedu 2003 system i ganiatáu cynnal digwyddiadau ar raddfa fach mewn unrhyw fangre, heb drwydded mangre neu oruchwyliwr mangre penodol: Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (HDDDau) yw enw'r system yma.

Mae Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro yn cwmpasu achlysuron bach nad ydyn nhw'n cynnwys mwy na 499 o bobl ar unrhyw un adeg. Fe gaiff barhau hyd at 168 o oriau (saith niwrnod). Cost pob TEN yw £21.00 ac mae modd talu drwy ffonio 01443 570033

Gwneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (HDDD)

Er mwyn gwneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, bydd raid i drefnydd yr achlysur lenwi ffurflen gais, a chyflwyno dau gopi i'r Awdurdod Trwyddedu,  un copi i Heddlu De Cymru, ac un i Adran Iechyd yr Amgylchedd.

Mae dau fath o Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, ac maen nhw'n ddarostyngedig i wahanol brosesau:

  • Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro Safonol - a roddir o leiaf  10  o ddiwrnodau      gwaith cyn yr achlysur mae'n ymwneud ag ef
  • Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro Hwyr - a roddir rhwng  9 a 5 o ddiwrnodau      gwaith  cyn yr achlysur.

Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro Safonol

Mae '10 o ddiwrnodau gwaith' yn eithrio'r diwrnod y daw'r Hysbysiad i law, a diwrnod cyntaf yr achlysur.

Mae gan yr Heddlu a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (SIA) gyfnod o dri diwrnod gwaith o'r cyfnod y rhoddwyd yr Hysbysiad iddyn nhw, i'w wrthwynebu ar sail unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu.

Er taw 10 o ddiwrnodau gwaith clir yw'r hysbysiad isaf posibl y ceir ei roi, rydyn ni'n cyfeirio darpar ddefnyddwyr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro at Bolisi Trwyddedu'r Awdurdodau ynghylch cyflwyno Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro er mwyn sicrhau llwyddiant yr achlysur. I grynhoi, felly, mae'r polisi yn dadlau o blaid rhoi cyfnod o dri mis i hysbysiad.

Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro Hwyr

Bwriad Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro Hwyr yw cynorthwyo defnyddwyr mangreoedd y mae'n ofynnol iddyn, am resymau y tu allan i'w rheolaeth i, er enghraifft, newid y lleoliad ar gyfer achlysur ar fyr rybudd.

Fe geir rhoi Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro Hwyr rhwng 9 a 5 o ddiwrnodau gwaith cyn y cyfnod mae'r achlysur i gael ei gynnal ac, oni bai fod yr Hysbysiad yn cael ei roi yn electronig i'r Awdurdod Trwyddedu, rhaid i ddefnyddiwr y fangre ei anfon i'r Heddlu a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Caiff Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro Hwyr a roddir llai na 5 niwrnod cyn yr achlysur y mae'n ymwneud ag ef ei ddychwelyd fel un di-rym, ac ni fydd y gweithgareddau y mae'n ymwneud â nhw yn rhai a awdurdodwyd.

Un o'r gwahaniaethau allweddol rhwng Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro Safonol a Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro Hwyr yw'r broses yn dilyn Hysbysiad o Wrthwynebiad gan yr Heddlu neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd. Pan ddaw Hysbysiad o Wrthwynebiad i law mewn perthynas â Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro Safonol, rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu gynnal gwrandawiad er mwyn ystyried y gwrthwynebiad, oni bai fod yr holl bartïon yn cytuno nad oes angen gwrandawiad.

Os yw'r Heddlu, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, neu'r ddau yn gwrthwynebu'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro Hwyr, fodd bynnag, ni fydd yr Hysbysiad yn ddilys ac ni fydd yr achlysur yn mynd rhagddo gan nad oes lle ar gyfer gwrandawiad nac ar gyfer cymhwyso unrhyw amodau cyfredol.

Ni cheir rhoi dim mwy na 15 o Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro i fangre y flwyddyn galendr, yn amodol ar y cyfanswm crynswth hyd sy'n dod o dan yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro, sef 21 o ddiwrnodau y flwyddyn galendr.

Fe gaiff unrhyw un 18 oed neu'n hŷn wneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, ond ni chaiff gael mwy na 5 y flwyddyn galendr. Fe gaiff deiliad trwydded bersonol hyd at 50 o Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro y flwyddyn galendr.

Croeso i chi wneud cais am Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro drwy wefan https://www.gov.uk/cymraeg

Tudalennau Perthnasol