Skip to main content

Ymgyrch 'Get ME Home Safely'

Mae Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i gefnogi ymgyrch sydd wedi'i chynnig gan Undeb Unite er mwyn ymgyrchu dros weithwyr economi'r nos i allu cyrraedd adref yn ddiogel.

Efallai bydd rhai gweithwyr yn pryderu am eu diogelwch wrth deithio i'r gwaith ac yn ôl adref  gyda’r nos, bydd rhai yn ansicr sut y byddan nhw'n cyrraedd adref hyd nes eu bod nhw’n gadael y gwaith. Er bod rhai cyflogwyr yn teimlo bod eu dyletswydd gofal yn dod i ben pan mae gweithiwr yn gorffen eu sifft, mae'r Cyngor yn teimlo y dylai cyflogwr ystyried sut mae eu staff yn cyrraedd adref, yn enwedig yn ystod oriau gwaith anghymdeithasol.

Prif nod ymgyrch ’Get ME Home Safely’ yw i bob gweithiwr gael mynediad at drafnidiaeth ddiogel, unrhyw bryd yn ystod y dydd, ac i gyflogwyr a staff ddatblygu datrysiadau ar y cyd er mwyn sicrhau bod modd i’r rheiny sy'n gweithio wedi 11pm ddefnyddio trafnidiaeth i'r gwaith ac yn ôl adref yn ddiogel.

Wrth ystyried hyn, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gymryd camau gweithredu cadarnhaol er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf. Er mwyn cyflawni hyn, y bwriad yw gweithio gyda busnesau sydd angen trwydded i weithredu economi nos diogel yn unol ag amcanion ein Polisi Trwyddedu, gweithio gyda deiliaid trwydded, cyflogwyr, yr Heddlu a phartneriaid Cymunedau Diogel i sicrhau bod ein cymunedau yn lleoedd diogel gyda'r nos.

Bwriad y Cyngor yw annog deiliaid trwydded a chyflogwyr i ystyried trafnidiaeth staff yn rhan allweddol o weithredu busnes diogel a chynaliadwy, gan helpu i sicrhau bod gweithwyr yn y sectorau yma'n cael eu gwerthfawrogi. Bydd hyn o fudd mawr o ran diogelwch a lles gweithwyr y sector lletygarwch, a bydd o fudd i’n cymuned a'r busnes drwy wella'r gallu i gyflogi a chadw staff.

Mae'r Cyngor yn annog pob busnes i gymryd rhan yn yr ymgyrch yma'n gryf ac i ystyried yr hyn y mae modd ei wneud er mwyn gwneud i'w staff nhw deimlo'n ddiogel. Dyma enghreifftiau i'w hystyried:-

-        Cost trafnidiaeth, sy'n aml iawn yn rhy ddrud i'r rheiny sy'n gweithio patrwm sifftiau amrywiol ac sy’n cael cyflog isel, yn ogystal â chontractau dim oriau

-        Diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ar ddiwedd sifft

-        Y pellter i'w gerdded i’w car, tacsi, trên neu fws

-        Y llwybr bydd angen i'r aelod o staff ei ddefnyddio

-        Sut y byddan nhw'n cyrraedd adref

-        Gofyn i staff am eu pryderon.

Er mwyn sicrhau gweithlu sy'n sicr ac yn hyderus am eu diogelwch, mae gofyn i fusnesau nodi datrysiadau ymarferol er mwyn sicrhau taith ddiogel adref, drwy gyflwyno mesurau megis:-

-        Patrymau sifft lle nad oes unrhyw unigolion yn gadael ar eu pennau eu hunain

-        Sicrhau bod sifftiau'r rheiny sydd angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn dod i ben ar amser addas er mwyn iddyn nhw deithio adref

-        Sicrhau bod gan bob aelod o staff gyfaill gwaith fel bod neb yn teithio ar eu pennau eu hunain

-        Darparu trafnidiaeth megis tacsi neu fws mini er mwyn mynd â staff adref

-        Darparu rhifau ffôn cwmnïau tacsi yn yr ardal

-        Cyfrannu at gost tacsi gweithwyr sy'n gweithio sifftiau hwyr

-        Cynnwys yr uchod mewn asesiad risg.

Mae'r Cyngor hefyd yn annog busnesau i feddwl am eu mentrau eu hunain, ac os ydyn nhw'n llwyddiannus, eu rhannu nhw gyda busnesau eraill drwy gydweithio â'r Cyngor.

Get ME Home Safely | Make Our Communities & Workplaces Safer (unitetheunion.org)