Skip to main content

Trwydded apêl elusennol

Mae'n anghyfreithlon cynnal casgliad ar y stryd, sy'n casglu arian neu'n gwerthu eitemau er budd elusen neu ryw ddiben arall, heb gael trwydded casglu ar y stryd gan y Cyngor. Mae'r drwydded yma ar gyfer casgliad ar y stryd neu mewn man cyhoeddus. Mae ‘man cyhoeddus’ yn golygu man lle mae hawl gan y cyhoedd ei gyrchu.
Nid oes cost am roi caniatâd ond mae rheolau i'w dilyn wrth wneud cais.

Mae casgliadau ar y stryd, fel arfer, yn cael eu cynnal gan elusennau. Mae casgliadau, fel arfer, yn cael eu cynnal yng nghanol y dref ar ddiwrnodau siopa prysur. Mae arian yn cael ei gasglu mewn tuniau. Mae rheoliadau ar waith sy'n rheoli'r math yma o gasgliad. Mae cyfyngu ar ganiatâd yn galluogi elusennau i godi arian heb i'w casgliadau nhw wrthdaro â chasgliadau elusennau eraill.

Mae'r gofyniad cyfreithiol o ran cael caniatâd yn ceisio sicrhau bod y sawl sy'n casglu wedi'i awdurdodi'n briodol a bod yr arian yn cael ei gasglu mewn ffordd ddiogel a bod cyfrif am bob ceiniog.

Crynodeb o'r rheoliadau

Yn aml, mae pobl yn credu bod modd cynnal casgliadau wrth ddrysau siopau neu mewn meysydd parcio heb orfod cael trwydded casglu ar y stryd oherwydd maen nhw ar ‘dir preifat’. Ond, dydy hynny ddim yn wir. Dydy'r ddeddfwriaeth ddim yn sôn am faterion perchnogaeth y tir neu'n crybwyll bod casgliadau ar ‘dir preifat’ wedi'u heithrio rhag rheoliadau trwyddedu. Mae drysau siopau neu feysydd parcio, pan fo'r siopau ar agor, yn ‘fan cyhoeddus’ oherwydd mae modd i'r cyhoedd eu cyrchu ar yr adeg honno. Fyddai unrhyw drwydded arall ddim yn ddilys. Does dim modd defnyddio Trwydded Pedlera, sy'n cael ei rhoi gan yr Heddlu, i'r diben yma. Dim ond Awdurdodau Lleol, yn unol ag adran 5 o Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Atodiad 29 o'r Ddeddf honno, sy’n rhoi trwydded casglu ar y stryd.

Ar ôl cynnal casgliad, mae rhaid llenwi ffurflen datgan derbyniadau, a'i hanfon yn ôl aton ni. Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais, byddwn ni'n anfon y ffurflen yma atoch chi.

Meini prawf

  • Ydy cais gan yr elusen, y sefydliad, y gronfa neu'r unigolyn dan sylw am drwydded casglu o dŷ i dŷ neu drwydded casglu ar y stryd wedi cael ei wrthod, neu ydy trwydded o'r fath wedi'i thynnu yn ôl?
  • Ydych chi, neu unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r apêl, wedi'ch cael yn euog gan Lys am unrhyw drosedd sydd heb ddarfod o dan delerau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974?
  • Ydy cais gennych chi, neu gan unrhyw un sy'n gysylltiedig â hyrwyddo'r apêl yma, hyd eithaf eich gwybodaeth, am drwydded casglu o dŷ i dŷ neu drwydded casglu ar y stryd wedi cael ei wrthod, neu ydy trwydded o'r fath wedi'i thynnu yn ôl?

Sut mae cyflwyno cais

Erbyn hyn, mae modd i chi gyflwyno cais am drwydded ar-lein.

Cadarnhad ein bod ni wedi derbyn eich cais

Os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn neges e-bost yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu.

Os byddwch chi'n anfon cais i'r Adran Trwyddedu, byddwch chi'n derbyn llythyr o gadarnhad bod eich cais yn cael ei brosesu o fewn saith o ddiwrnodau gwaith.

Os byddwch chi'n dod â'ch ffurflen gais i dderbynfa ein swyddfa, byddwch chi'n derbyn llythyr sy'n cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu o fewn saith o ddiwrnodau gwaith.

Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os fyddwch chi ddim wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.

Amserlen

Mae angen arnom ni 28 diwrnod o rybudd cyn i chi gynnal casgliad.

Proses apelio

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn gyntaf.

Os byddwn ni'n gwrthod eich cais, bydd modd i chi apelio yn eich llys ynadon lleol.

Cwyno / gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am gais trwyddedu neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 a gofynnwch am Swyddog Trwyddedu.

Cofrestri cyhoeddus

I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Neu, anfonwch eich cais mewn neges e-bost i Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltwch â'r Garfan Drwyddedu am ragor o wybodaeth a chyngor, gan ddefnyddio'r manylion isod:

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái

Dinas Isaf

Trewiliam

Tonypandy

CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
Tudalennau Perthnasol