Skip to main content

Anifeiliaid Perfformio

Cofrestru Anifeiliaid Perfformio

Os ydych chi'n bwriadu hyfforddi anifeiliaid er mwyn iddyn nhw berfformio'n gyhoeddus, (e.e. mewn syrcas neu ffilm), mae rhaid cofrestru'r anifail o dan Deddf (Rheoleiddio) Anifeiliaid Perfformio 1925.  Mae'r deddfwriaeth yma'n bodoli er mwyn ymdrin â defnyddio anifeiliaid mewn perfformiadau ar lwyfan, mewn syrcas, ac yn rhan o arddangosfeydd ayb. Mae rhaid i adeiladau a llety ar gyfer anifeiliaid fodloni safonau sylfaenol ar gyfer iechyd, llesiant a diogelwch yr anifeiliaid rydych chi'n bwriadu eu cadw. Byddwn ni'n trefnu bod milfeddyg yn dod i gynnal archwiliad er mwyn sicrhau bod y llety yn addas.

Meini prawf

Does dim cyfyngiad ar bwy sy'n gallu gwneud cais am gofrestru anifail perfformio.

Crynodeb o'r rheoliadau

Deddf Anifeiliaid Perfformio 1925.

Beth yw Amodau'r o ran Cofrestru?

Mae Deddf (Rheoleiddio) Anifeiliaid Perfformio 1925 yn gofyn bod unrhyw berson sy'n arddangos neu hyfforddi anifeiliaid fertebraidd sy'n perfformio yn cofrestru gyda'r awdurdod lleol.  Mae'r term "arddangos" yn cael ei ddiffino fel "arddangos unrhyw adloniant ble mae'r cyhoedd yn cael dod i mewn, boed hynny ar ôl talu neu fel arall..."..mae "hyfforddi" yn golygu "at bwrpas unrhyw arddangosfa o'r fath".

Mae'r darpariaeth yma'n berthnasol i syrcasau ac i sefyllfaoedd eraill, fel gwneud ffilm a drama, sy'n cynnwys perfformiadau gan anifeiliaid. Mae rhaid i berson sy'n arddangos neu hyfforddi anifeiliaid perfformio gofrestru; e.e. syrcasau, cabaret, ffilm.

Mae modd gofyn am gopi o amodau cofrestru. Fodd bynnag, cyn i gais cofrestru cael ei gymeradwyo, mae rhaid i'r ymgeisydd arddangos bod:

yr anifeiliaid perfformio yn dod o gartref cyfrifol er mwyn lleihau risg afiechyd;

Bydd camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu'r anifeiliaid os bydd tân neu argyfwng arall, gan gynnwys darparu offer diffodd tân addas;

bod y gofrestr yn cynnwys y mathau o anifeiliaid bydd yn cael eu defnyddio mewn perfformiadau, i gael eu hyfforddi ac i'w harddangos;

bod gwiriadau iechyd a diogelwch yn cael eu cynnal ar gyfer yr anifeiliaid a'r staff.

Pryd oes angen cofrestru?

Mae angen i unrhyw un sydd eisiau hyfforddi neu arddangos anifail perfformio gofrestru. - e.e. anifeiliaid mewn dramâu.

Oes angen talu ffi?

Mae cost y broses gofrestru'n dibynnu ar ba mor hir mae swyddog y Cyngor yn ystyried y cais, ynghŷd â chost milfeddig. Bydd anfoneb yn cael ei anfon ar ddiwedd y broses.

Pa wybodaeth neu tystiolaeth sydd angen i mi gyflwyno?

Mae'r ffurflen gais yn esbonio pa wybodaeth sydd angen i chi ei chyflwyno er mwyn i ni brosesu'ch cais. Mae hyn yn cynnwys trefniadau gwres, maynlion yr anifal, a sut bydd yr anifail yn perfformio ac am ba mor hir. Fodd bynnag, mae modd i swyddogion y Cyngor neu berson awdurdodedig, fel milfeddyg, ofyn am ragor o wybodaeth neu eglurhad pellach yn dilyn canfyddiadau'r archwiliad cyn rhoi trwydded neu gofrestriad.

Oes unrhyw archwiliadau neu asesiadau?

Cyn caniatâu i rywun gofrestru, bydd swyddog yn trefnu archwiliad er mwyn penderfynu os yw'r safonau angenrheidiol yn cael eu bodloni.

Sut ydw i'n cyflwyno cais?

Mae modd cyflwyno cais yn y ffordd canlynol:

Cwblhewch y ffurflen gais ar gyfer Trwydded Anifeiliaid Perfformio. Mae modd i chi lawrlwytho'r ffurflen gais ar waelod y dudalen yma. Mae modd i chi ddod â ffurflen gais sydd wedi'i chwblhau a'i harwyddo i'r swyddfa isod.

Pa mor hir yw'r broses?

Oherwydd bod angen i swyddogion y Cyngor a phobl eraill megis milfeddyg gynnal archwiliad, rydyn ni'n awgrymu bydd y broses yn cymryd hyd at 28 diwrnod, h.y. o dderbyn eich cyfarfod hyd cymeradwyo'r trwydded neu gofrestriad.

Byddwn ni'n cadarnhau drwy e-bost ein bod ni wedi derbyn unrhyw ffurflen gais electronig. Cysylltwch â ni os oes gennych chi ymholiadau ynglŷn â'r broses.

Ydw i'n gallu dechrau masnachu cyn i fi dderbyn fy nghofrestriad (h.y. oes modd gweithredu cydsyniad mud)?

Dydych chi ddim yn gallu dechrau masnachu cyn i'r Cyngor brosesu'ch cais ac eich bod chi wedi derbyn trwydded. Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os nad ydych chi wedi clywed gennym ni o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni.

Newidiadau i'r Gofrestriad

Unwaith eich bod chi wedi cofrestru, mae rhaid i chi rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau. Mae'n bosib bydd hyn yn golygu bod angen i chi ailgofrestru.

Rhagor o fanylion

Cysylltwch â ni:

Carfan Trwyddedu

Tŷ Elái,

Dwyrain Dinas Isaf

Trewiliam

Tonypandy

CF40 1NY

E-bost: Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425001

Ffacs: 01443 425301

                                   

 
Tudalennau Perthnasol