Skip to main content

Rhentu Doeth Cymru

 Erbyn hyn mae rhaid i Landlordiaid ac asiantau gofrestru neu gael trwydded yn ôl y gyfraith.

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gorfodi landlordiaid i gofrestru, a landlordiaid hunan-rheoli sy'n rhentu a rheoli eiddo ac asiantau i ymgymryd â hyfforddiant a gwneud cais am drwydded.

Bwriad Rhentu Doeth Cymru ydy codi safonau yn y sector rhentu preifat. Bydd y cynllun yn diogelu tenantiaid a chefnogi landlordiaid ac asiantau da drwy eu helpu nhw i gadw llygad ar eu cyfrifoldebau a goblygiadau cyfreithiol, gan wella enw da'r sector.

Mae carfan arbenigol yn delio ag ymholiadau ac yn helpu landlordiaid ac asiantau i gofrestru a gwneud cais am drwydded.

Mae'r pwerau gorfodi bellach yn weithredol. Mae hyn yn golygu eich bod chi'n cyflawni trosedd os nad ydych chi'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yma.

Mae yna nifer o gosbau am gyflawni troseddau o dan y Ddeddf yma. Mae'r rhain yn cynnwys:·        

  • Hysbysiad Cosb Benodol (naill ai £150/£250)
  • Gorchymyn Ad-dalu Rhent
  • Gorchymyn Atal Rhent
  • Erlyn yn Droseddol a Dirwyon 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru ble mae modd i chi danysgrifio i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae modd i chi hefyd ein dilyn ni ar Twitter @rentsmartwales neu Facebook.  Os hoffech chi siarad â rhywun, mae modd i chi gysylltu â llinell gymorth Rhentu Doeth Cymru drwy ffonio 03000 133344.

Bydd rhaid i chi wneud cais am drwyddedau eiddo unigol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth gan yr awdurdod yma.

Rhentu Doeth Cymru
Blwch 1106
Caerdydd
CF11 1UA