Skip to main content

Lwfans Tai Lleol - gwybodaeth i landlordiaid preifat

Beth fydd y cyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer fy eiddo?

Mae cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol wedi cael eu rhewi ers mis Ebrill 2012. Bydd y rhain yn cael eu newid yn flynyddol. Cliciwch yma i weld y cyfraddau presennol.

Yr unig newid sy'n berthnasol i'r rhan fwyaf o landlordiaid ynglŷn â'r cyfraddau Lwfans Tai Lleol yw y bydd y taliadau budd-dal yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r tenant a’r tenant fydd yn gyfrifol am dalu'i rent i'r landlord.

Pa landlordiaid sy’n cael eu heffeithio gan y Lwfans Tai Lleol?

Mae'r Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar unrhyw landlord sy'n ymrwymo i gytundeb tenantiaeth preifat sydd wedi'i ddadreoli, gyda pherson sy'n derbyn Budd-dal Tai. Mae tenantiaeth sydd wedi'i dadreoli yn golygu tenantiaeth yr ymrwymwyd â hi ar ôl 1989 a dydy'r eithriadau sy'n cael eu rhestru isod ddim yn berthnasol iddi.

Pwy sydd ddim yn cael ei effeithio gan y Lwfans Tai Lleol?

Dydy'r Lwfans Tai Lleol ddim yn effeithio ar:

  • landlordiaid awdurdod lleol y mae 'tenantiaid y Cyngor' yn rhentu'u heiddo
  • tenantiaethau gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
  • rhai tai â chymorth
  • tenantiaethau a ddechreuodd cyn 15 Ionawr, 1989 (2 Ionawr, 1989 yn yr Alban)
  • tenantiaethau mewn carafanau, cychod preswyl neu hosteli
  • tenantiaethau lle mae'r Swyddog Rhentu wedi penderfynu bod rhan sylweddol o'r rhent ar gyfer llety a gwasanaeth

Pam cafodd y Lwfans Tai Lleol ei gyflwyno?

Cyflwynwyd y Lwfans Tai Lleol er mwyn cynyddu cyfrifoldeb, rhoi’r dewis yn gadarn yn nwylo’r tenantiaid a helpu i ddatblygu'r sgiliau i drosglwyddo i fyd gwaith. Dyma amcanion cyflwyno'r Lwfans Tai Lleol:

  • tegwch - i dalu symiau tebyg i denantiaid sydd ag amgylchiadau tebyg
  • dewis - i ganiatáu i denantiaid ddewis rhwng pris ac ansawdd y llety
  • tryloywder - mae'n haws i denantiaid (cyn iddyn nhw ymrwymo eu hunain i  eiddo penodol) ac i landlordiaid, er mwyn iddyn nhw ddarganfod faint o'r rhent fyddai'n cael ei dalu trwy Fudd-dal Tai
  • cyfrifoldeb personol – gorfodi tenantiaid i gymryd cyfrifoldeb am reoli eu materion ariannol a thalu eu rhent eu hunain
  • cynhwysiant ariannol – annog tenantiaid i drefnu bod y taliadau tai yn cael eu talu i mewn i gyfrif banc, a sefydlu archeb reolaidd ar gyfer y taliadau i'w landlord
  • systemau gweinyddu gwell a lleihau’r rhwystrau i fyd gwaith - mae system symlach yn helpu i gyflymu gweinyddu taliadau tai ac yn rhoi hyder i denantiaid sy'n dechrau gweithio bod unrhyw fudd-daliadau yn mynd i gael eu talu'n brydlon

Pam dydyn ni ddim yn gwneud taliadau uniongyrchol i landlordiaid bellach?

Dylai tenantiaid, y mae eu budd-dal yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r cyfraddau Lwfans Tai Lleol, allu cymryd mwy o gyfrifoldeb dros reoli eu materion ariannol a thalu'u rhent i'w landlordiaid, yn yr un modd â thenantiaid eraill. Dyna pam mae unrhyw fudd-dal yn cael ei dalu i'r tenant fel arfer, ac nid i'r landlord.

Yn y gorffennol, ni fu erioed hawl i landlord dderbyn taliadau budd-dal tai yn uniongyrchol. Serch hynny, mae hawl i denantiaid ofyn am y trefniant yma, a'r hawl yma sy'n mynd i gael ei newid.

Rydw i eisoes yn derbyn taliad uniongyrchol ar gyfer rhai o'm tenantiaid. Fydd y taliadau yma'n dod i ben?

Na fyddan. Bydd unrhyw denant sydd yn cael Budd-dal Tai ar 7 Ebrill, 2008, yn parhau i gael ei dalu yn yr hen ffordd. Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau tai yn uniongyrchol, ar ran eich tenant(iaid), byddwn ni'n parhau i'ch talu chi.

Bydd y rheolau Lwfans Tai Lleol dim ond yn effeithio ar unrhyw denantiaid sy'n hawlio o'r newydd, sy'n symud i lety rhentu preifat newydd, neu sy'n stopio hawlio dros dro, ar y 7fed o Ebrill 2008, neu ar ôl hynny.

Os ydych chi'n landlord sy'n berchen ar nifer o eiddo, neu sy'n eu rheoli, mae'n bosibl y bydd gennych chi denantiaid sy'n hawlio Budd-dal Tai o dan y ddau gynllun. Bydd hyn yn golygu y gall fod gennych chi denantiaid sy'n cael Budd-dal Tai y mae'r awdurdod lleol yn ei dalu i chi, a thenantiaid eraill sy'n cael Budd-dal Tai sydd wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio'r cyfraddau Lwfans Tai Lleol, a fydd yn eich talu chi eu hunain.

Pa fesurau diogelu landlordiaid sy'n bodoli?

Mae amrywiaeth o fesurau i ddiogelu buddiannau landlordiaid. Mae rhai o'r rhain yn bodoli eisoes. Er enghraifft, fel arfer, bydd rhaid i’r awdurdod lleol dalu’r budd-dal i’r landlord, os yw’r tenant wyth wythnos neu ragor ar ei hôl hi gyda’r rhent.

Mae'n bosibl y bydd taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r landlord os ydyn ni'n penderfynu bod y tenant:

  • yn debygol o'i chael hi'n anodd rheoli'i faterion ariannol
  • annhebygol o dalu'i rent

Yn ogystal â hyn, mae gyda ni hawl i benderfynu talu’r budd-dal i’r landlord os yw’r tenant wyth wythnos ar ei hôl hi gyda’r rhent yn ystod ei hawliad budd-dal cyfredol.

Ein cyngor yw cysylltu â ni os yw tenant yn dechrau cronni ôl-ddyledion rhent, cyn diwedd yr wyth wythnos. Bydd hyn yn ein caniatáu ni i ymchwilio a gweld a oes problem sydd angen mynd i'r afael â hi. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o hyn.

Pwy sy'n penderfynu a yw tenant yn debygol o'i chael hi'n anodd talu'i rent?

Yr awdurdod lleol sy'n penderfynu hyn. Bydd angen tystiolaeth i ategu'r cais. Caiff tenant neu unrhyw berson arall sydd â diddordeb wneud hyn.

Gallwch chi, fel landlord, gysylltu â ni os ydych chi o'r farn ei bod hi’n debygol y caiff eich tenantiaid drafferth i dalu neu os ydych chi o’r farn na allan nhw ddelio â'u materion ariannol. Byddwn ni’n cysylltu â'ch tenant am ragor o wybodaeth am hyn.

Ni fydd yn penderfynu a yw'r tenantiaid yn annhebygol o dalu’u rhent. Gallwn ni wneud hyn dim ond os bydd gyda ni dystiolaeth eu bod nhw wedi methu â thalu o’r blaen, neu eu bod nhw’n debygol o fethu â'i dalu. Byddwn ni’n ystyried yr holl wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael i ni ar y pryd, gan gynnwys hanes hysbys y tenant, wrth wneud ein penderfyniad ni.

Bydd yn bwysig hefyd i'r landlord gadw cofnodion priodol a digonol o daliadau rhent a gafodd eu derbyn, gyda manylion unrhyw gyswllt a wnaed gyda'r tenant.

Pwy sy’n penderfynu a ydyn ni’n cael talu’r landlord?

Y ni sy’n penderfynu a ydyn ni’n cael talu’r landlord.

Ar adegau, mae’n bosibl y bydd staff Budd-daliadau Tai yn gwybod am bobl sy’n cael anhawster rheoli’u harian. Bydd hawl gan y staff i gymryd camau ar sail yr wybodaeth yma. Os ydych chi o’r farn bod tenant yn cael anhawster rheoli’i arian, rydyn ni’n eich argymell i annog y tenant i gysylltu â ni.

Rhaid i ni gael tystiolaeth sy’n dangos ei fod yn cael anhawster rheoli’i arian, ac y bydd yn llesol iddo os talwn ni’n uniongyrchol i’r landlord. Gan amlaf, dylai’r dystiolaeth fod yn ysgrifenedig. Dyma rai o’r bobl sy’n cael cyflwyno tystiolaeth:

  • y tenant
  • ffrindiau neu deulu’r tenant
  • y landlord
  • grwpiau lles (gan gynnwys cynghorwyr ariannol)
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Swyddogion Prawf
  • Canolfan Byd Gwaith
  • Y Gwasanaeth Pensiwn
  • elusennau/mudiadau digartrefedd
  • Carfanau Cymorth i Bobl
  • gweinyddwyr cynlluniau blaendal rhent lleol/y cyngor, a swyddogion digartrefedd neu gyngor ar dai

Byddwn ni’n gweithio gyda’r tenant wrth wneud ein penderfyniad.

Cost Rhenti Fforddiadwy

Mae'n bosibl y byddwn ni'n ystyried taliadau uniongyrchol i landlord os bydd hyn o gymorth i'r tenant wrth sicrhau neu gadw tenantiaeth. Er mwyn sicrhau neu gadw tenantiaeth, rhaid ein bod ni'n cytuno bod y rhent yn fforddiadwy i'r tenant.

I benderfynu a ydy’r rhent yn fforddiadwy, byddwn ni’n cymharu’r gost gyda’r gyfradd Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol i’r tenant. Bydd cost y rhent yn cael ei hystyried yn fforddiadwy os ydy hi yr un peth, neu’n llai na’r Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol i’r tenant. 

Os oes gan y cwsmer ddiffyg rhent na all gwrdd ag ef, mae'n annhebygol y byddai hyn yn cael ei ystyried yn denantiaeth fforddiadwy. Pe byddai swm y rhent yn cael ei drafod a'i wneud yn is, yna, byddai’n bosibl i ni ystyried hyn.

Ydy’r tenant yn cael gofyn i’r budd-dal gael ei dalu i’w landlord?

Fel rhan o ddiwygiadau'r Budd-dal Tai, fydd dim modd i denantiaid ofyn i’r budd-dal gael ei dalu’n uniongyrchol i’w landlordiaid. Os yw tenantiaid o’r farn eu bod nhw’n debygol o’i chael hi’n anodd rheoli’u materion ariannol, ac y gall fod ganddyn nhw’r hawl i’w taliadau gael eu trosglwyddo i’w landlord yn uniongyrchol, fe wnawn ni ystyried unrhyw gais maen nhw’n ei wneud.

Pan gaiff taliadau eu gwneud yn uniongyrchol i mi, am ba hyd y byddan nhw’n para?

Os ystyrir y bydd tenant yn cael trafferth talu ei rent, ac nad yw'r sefyllfa honno'n debygol o newid, mae'n debygol y caiff y landlord ei dalu'n uniongyrchol yn yr hirdymor.

Mewn achosion lle y mae'n debygol bod y sefyllfa yn un dros dro, neu lle y mae ôl-ddyledion rhent o dros wyth wythnos wedi'u had-dalu, caiff y sefyllfa ei hadolygu. Os bydd y tenantiaid mewn sefyllfa well i gael y budd-dal eu hunain, ac i dalu eu rhent yn llawn ac ar amser, daw'r taliadau uniongyrchol i'r landlord i ben.

Oni fydd rhai tenantiaid yn gwario eu Lwfans Tai Lleol ar bethau eraill?

Mae llawer o denantiaid yn y sector rhentu preifat yn derbyn budd-dal tai ac yn talu’u rhent yn rheolaidd ac yn brydlon. Lle bo tenant yn dechrau derbyn taliadau uniongyrchol, byddwn ni’n ei gwneud hi’n glir iddo beth yw ei gyfrifoldebau, a beth fydd canlyniadau peidio â thalu’i rent.

Bydd rhai cwsmeriaid sy’n methu rheoli eu taliadau rhent eu hunain. Bydd y pecyn cynhwysfawr o fesurau diogelwch yn atal y cwsmeriaid hyn rhag mynd i drafferthion na ellir eu rheoli.

Mae'r cynllun Lwfans Tai Lleol wedi bod ar waith mewn 18 o awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban ers mis Hydref 2003. Yn yr ardaloedd hyn, mae 84% o denantiaid y mae eu budd-dal yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio rheolau'r Lwfans Tai Lleol yn rheoli eu taliadau rhent eu hunain yn llwyddiannus. O'r gweddill, dim ond un rhan o dair y mae eu Budd-dal Tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r landlord oherwydd eu bod heb dalu rhent am wyth wythnos neu ragor. Telir budd-dal y gweddill i'r landlordiaid oherwydd bod yr awdurdod lleol wedi nodi ei bod yn bosibl na fyddan nhw’n gallu rheoli eu taliadau rhent.

Oni fydd hyn yn annog landlordiaid i beidio â rhentu eu heiddo i hawlwyr?

Rydyn ni o’r farn bod cynllun y Lwfans Tai Lleol o fudd i landlordiaid a thenantiaid.

Bwriad y diwygiadau yw helpu landlordiaid a thenantiaid drwy greu system fwy tryloyw sy'n haws ei deall a'i gweinyddu. Yn gyffredinol, bydd yn cefnogi'r gydberthynas rhwng yr awdurdod lleol, tenantiaid a landlordiaid ac yn ei hegluro'n llawn.

Bydd landlordiaid yn dal i allu cysylltu â'r awdurdod lleol am gymorth gydag ôl-ddyledion rhent ar gyfer tenantiaid y mae eu budd-dal yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio rheolau'r Lwfans Tai Lleol. Fyddan nhw ddim yn cael gwneud hyn os oes ganddyn nhw denant sydd ag ôl-ddyledion rhent ond nad yw'n cael budd-dal.

Oherwydd bod taliadau yn mynd i denantiaid yn y rhan fwyaf o achosion, fydd dim gofyn i landlordiaid ad-dalu symiau mawr mewn budd-daliadau a gordaliad. O dan gynllun y Lwfans Tai Lleol, mae'n annhebygol y byddai'r awdurdod lleol yn gofyn i chi ad-dalu unrhyw arian y mae eich tenant wedi'i dalu'n uniongyrchol i chi.

Rydyn ni o'r farn bod y mesurau diogelwch sy'n bodoli o ran taliadau uniongyrchol i landlordiaid yn taro'r cydbwysedd cywir wrth ddiogelu buddiannau landlordiaid a thenantiaid.

A gaf i gynnwys taliadau uniongyrchol fel un o amodau'r denantiaeth?

Dyw awdurdod lleol ddim yn rhan o'r cytundeb tenantiaeth rhwng landlord a thenant, a dyw e ddim yn rhwymedig i unrhyw amodau mewn cytundeb tenantiaeth. Chaiff yr awdurdod lleol ddim talu budd-dal yn uniongyrchol i landlord ar gais tenant - mae'r rheolau o ran pryd y gallwn ni dalu'r landlord yn uniongyrchol wedi’u nodi uchod. Chewch chi ddim cynnwys taliadau uniongyrchol fel un o amodau'r denantiaeth.

Pa hawliau apêl sydd gennyn ni yn erbyn penderfyniad taliadau?

Dyw hawliau apêl ddim yn newid o ganlyniad i'r cynllun newydd. Bydd hawl i apelio o hyd yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod i beidio â gwneud taliadau uniongyrchol.

Cysylltu â ni

Os ydych eisiau gwybod rhagor am y newidiadau a sut maen nhw’n effeithio arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Carfan Budd-daliadau Tai

CBS Rhondda Cynon Taf

Tŷ Bronwydd,

Y Porth

CF39 9DL

Ffôn: 01443 425002