Skip to main content

Archwiliadau Diogelwch - Tai Amlfeddiannaeth

Mae gan y Cyngor raglen arolygu ragweithiol o gartrefi amlfeddiannaeth. Os nad yw’r amodau yn yr eiddo sy’n cael eu harolygu yn bodloni’r safonau, mae’n ofynnol ar y landlord neu’r perchennog i’w gwella.

Mae ein rheoliadau yn nodi mai cyfrifoldeb rheolwr y cartref amlfeddiannaeth fydd sicrhau bod y canlynol yn cael eu cadw mewn cyflwr glân, da ac yn dwt (gan gynnwys, lle y bo’n briodol, cyfarpar sy’n gweithio’n gywir):

Cyflenwad Dŵr, Draeniad a Gwasanaethau Cyffredinol

Dylai pob dull cyflenwad dŵr a draeniad yn y tŷ gael ei gynnal a’i gadw, ei atgyweirio, ei gadw’n lân a’i ddiogelu rhag niwed rhew. Dylai tanciau a dyfrgistiau gael eu cadw’n lân a’u gorchuddio. Fydd y rheolwr ddim yn peri ymyrraeth afresymol yn y cyflenwad dŵr, nwy na thrydan.

Rhannau a Gosodiadau sy’n cael eu Defnyddio’n Gyffredin

Bydd y rheolwr hefyd yn sicrhau bod ardaloedd cyffredin fel grisiau, ffyrdd tramwy, coridorau a chynteddau yn cael eu cadw’n gymharol rydd rhag rhwystrau. Dylid atgyweirio neu adnewyddu unrhyw orchuddion grisiau neu eu darparu lle bo angen er diogelwch y trigolion.

Mae gosodiadau sy’n gwasanaethu unrhyw ran o’r tŷ sy’n cael ei defnyddio’n gyffredin wedi eu cynnwys, sef:

  • gosodiadau ar gyfer y cyflenwad nwy a thrydan, ar gyfer golau ac ar gyfer gwresogi a chynhesu dŵr;
  • cyfleusterau ystafell ymolchi, baddonau, sinciau, basnau golchi a gosodiadau ar gyfer coginio neu gadw bwyd;
  • cynwysyddion neu osodiadau eraill sy’n cael eu darparu mewn cysylltiad â chludo pecynnau post i’r tŷ;
  • gosodiadau eraill (os o gwbl) mewn cegin, ystafell ymolchi, toiled neu ystafell olchi nad ydyn nhw’n ddibynnol ar unrhyw un o ddarpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn.

Llety Byw

Dylai strwythur mewnol unrhyw ran o’r tŷ y mae deiliad yn byw ynddo fel llety byw ac sy’n cynnwys y gosodiadau ar gyfer cyflenwad dŵr, nwy, trydan ac ymolchi fod mewn cyflwr da a pharahu felly.

Golau, Ffenestri ac Awyru

Mae’n cynnwys yr holl ffenestri a phob dull arall o awyru. Bydd y rheolwr yn sicrhau bod y gosodiadau ar gyfer golau sy’n gwasanaethu unrhyw ran o’r tŷ sy’n gyffredin i bawb yn hygyrch i drigolion, gan gynnwys golau ar gyfer grisiau, a mynedfeydd i’r tŷ, a sy’n cael eu defnyddio gan y trigolion p’un ai ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n gyffredin ai peidio.

Ffyrdd o Ddianc rhag Tân

Dylid cynnal yr holl ffyrdd o ddianc rhag tân yn y tŷ a’r holl gyfarpar, systemau a rhagofalon tân eraill a’u cadw’n rhydd rhag rhwystrau. Cyfrifoldeb y rheolwr yw arddangos arwyddion yn dangos yr holl ffyrdd o ddianc rhag tân yn y tŷ mewn safleoedd addas yn y tŷ.

Mae modd ichi gael gweld arweiniad mwyaf diweddar LACoRS o’r enw ‘HOUSING – FIRE SAFETY’ (Guidance on fire safety provisions for certain types of existing housing), a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ar y cyd â Chymdeithas y Prif Swyddogion Tân.

Adeiladau Allanol sy’n cael eu Defnyddio’n Gyffredin

Maen nhw’n cynnwys yr holl adeiladau allanol, ac ardaloedd allanol sy’n perthyn i’r tŷ ac sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin. Dylid eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr glân, da, a dylid atgyweirio unrhyw waliau, ffensys a rheiliau ffin fel nad ydynt yn beryglus i’r trigolion.

Mae’n ofynnol hefyd i’r rheolwr sicrhau:

  • bod gwastraff a sbwriel ddim yn cronni yn y tŷ, ac eithrio adegau cyn casglu, a bydd e’n darparu ac yn cynnal biniau gwastraff a sbwriel, ac eithrio lle maen nhw’n cael eu darparu gan yr awdurdod lleol. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am waredu unrhyw wastraff os yw’r awdurdod lleol yn methu â gwneud hynny.
  • bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch cyffredinol trigolion y tŷ o ran cyflwr strwythurol y tŷ ac i atal mynediad i unrhyw ardaloedd nad ydyn nhw’n ddiogel, yn cynnwys silffoedd ffenestri nad ydynt ar lefel y ddaear neu’n agos ati.
  • bod enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr asiant rheoli neu landlord y tŷ yn cael ei arddangos yn y tŷ.
  • bod yr awdurdod tai lleol yn cael manylion y gofynnir amdanyn nhw trwy hysbysiad ysgrifenedig yn ymwneud â’r canlynol:
  • nifer yr unigolion a’r aelwydydd sy’n byw yn y tŷ
  • nifer yr unigolion ym mhob aelwyd; a
  • diben pob ystafell yn y tŷ.

Dyletswyddau Trigolion

Mae’n ddyletswydd ar holl drigolion yr eiddo i sicrhau y gall yr asiant gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol. Mae’n rhaid i’r holl drigolion:

  • ganiatáu mynediad i’r rheolwr, ar bob adeg resymol, i unrhyw ystafell a sy’n cael ei defnyddio, fel y gall gyflawni ei ddyletswyddau
  • darparu ar gais unrhyw wybodaeth berthnasol i’r rheolwr
  • cydymffurfio â’r trefniadau a wnaed gan yr asiant yn ymwneud â rhagofalon tân neu gadw a gwaredu sbwriel
  • gofalu peidio â rhwystro’r asiant mewn unrhyw ffordd rhag cyflawni ei ddyletswyddau
  • cymryd gofal rhesymol i osgoi niweidio unrhyw beth y mae dyletswydd ar yr asiant i’w gadw mewn cyflwr da.

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01443 425 001
Ffacs: 01443 425301
Minicom: 01443 425535
Ebost: publichealthhousing@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Tudalennau Perthnasol