Skip to main content

Iechyd a diogelwch yn y gweithle – rheoliadau ac archwiliadau

Mae Prosiect Bwyd ac Iechyd a Diogelwch y Cyngor yn galw heibio i swyddfeydd, siopau, warysau (warehouses), lleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden, a mangreoedd anniwydiannol eraill yn rheolaidd i gynnal archwiliadau. Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am ffatrïoedd ac adeiladau diwydiannol eraill. Drwy wneud hyn, mae modd sicrhau amodau gwaith diogel ac iach i bob gweithiwr, gweithiwr hunangyflogedig ac aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â’r adeiladau yma.

Yn yr un modd â diogelwch bwyd, bydd archwiliadau’n cael eu cynnal yn rheolaidd heb roi rhybudd ymlaen llaw. Bydd adeiladau risg uchel yn cael eu harchwilio yn fwy aml.

Yn ystod archwiliad, bydd rhaid i Swyddogion fod yn gwbl fodlon y bydd unrhyw beryglon i iechyd, diogelwch neu les pobl sy’n codi yn rhan o’r gwaith neu o ganlyniad i’r gwaith, ac unrhyw beryglon cysylltiedig, yn cael eu nodi a’u rheoli’n ddigonol. Byddan nhw’n edrych ar lefel hyfforddiant iechyd a diogelwch y rheolwyr a’r gweithwyr er mwyn gwneud yn siŵr ei bod hi’n ddigonol. Byddan nhw hefyd yn gwirio pa mor addas yw amodau’r adeilad a’r amgylchedd a bod peiriannau ac offer yn ddiogel.

Os bydd arferion neu amodau gwaith yn is na’r lefel ddisgwyliedig, bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i ddatrys y sefyllfa drwy ddull anffurfiol. Serch hynny, os na fydd hyn yn bosibl neu os bydd digon o berygl fel y gall achosi niwed personol difrifol, bydd rhaid i swyddogion gymryd camau ffurfiol. Gall hyn gynnwys naill ai hysbysiad cyfreithiol, erlid neu mewn sefyllfaoedd lle mae perygl o niwed personol difrifol, hysbysiad gwahardd lle bydd angen cymryd camau ar unwaith.

Ymchwilio i Gŵyn Iechyd a Diogelwch

Byddwn ni bob amser yn ymchwilio i gwynion am amodau gwaith mewn modd sensitif gan barchu cyfrinachedd y sawl a gwynodd. Bydd materion o’r fath fel arfer yn cael eu datrys drwy roi cyngor i’r cyflogwr, ond yn yr un modd ag y bydd damweiniau’n cael eu hymchwilio, bydd unrhyw gamau ffurfiol angenrheidiol yn cael eu cymryd.

Ymchwilio i Ddamwain Iechyd a Diogelwch

Rhan bwysig arall o waith y garfan yw ymchwilio i ddigwyddiadau neu ddamweiniau yn y gwaith. O ganlyniad i’r ymchwiliadau yma, fel arfer, bydd cyngor yn cael ei roi i’r cyflogwr. Os bydd hi’n amlwg mai methu â bodloni’r gofynion a bennwyd oedd y prif reswm dros y ddamwain, bydd camau ffurfiol yn cael eu cymryd.

Tyrau oeri

Yn ôl Rheoliadau Hysbysu ynghylch Tyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol 1992, mae rhaid i bob safle yn Rhondda Cynon Taf sydd â thyrau oeri (cooling towers) neu gyddwysyddion anweddol (evaporating condensers) gofrestru gyda’r Cyngor.

Prif bwrpas hyn yw pennu adeiladau lle mae posibilrwydd y gall clefydau heintus, e.e. clefyd y llengfilwyr, ledaenu. Mae modd hefyd sicrhau y bydd camau ataliol yn cael eu cymryd er mwyn cael gwared ar y risg o weithwyr neu’r cyhoedd yn cael eu heintio.

Gwybodaeth a chyngor

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda pherchnogion a rheolwyr i gyrraedd safonau uchel ac i atal problemau. Rydyn ni hefyd yn fodlon rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth neu broblemau ymarferol. Felly os ydych chi’n ystyried cychwyn busnes, neu pe hoffech chi drafod unrhyw beth mewn perthynas â’ch eiddo presennol, cysylltwch â ni:

Uwchadran Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd - Prosiect Iechyd a Diogelwch a Bwyd

 

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301