Skip to main content

Bwydydd ac amaeth

Mae Carfan Safonau Bwyd ac Amaeth yn gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth ar safonau bwyd i bobl ac anifeiliaid fel ei gilydd. Yn ogystal â hynny, mae'n helpu i drefnu "Cegaid o Fwyd Cymru", sef, achlysur bwyd ac amaeth ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.

Mae'r garfan yn gweithio'n agos â busnesau bwyd lleol. Mae pwerau gyda hi o dan y Ddeddf Diogelwch Bwyd i archwilio ac i samplu bwydydd fydd yn cael eu bwyta gan bobl. Yn ogystal â hynny, mae swyddogion yn ymweld â ffermydd a thyddynnau a nhw sy’n gyfrifol am ystod eang o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â phorthiant anifeiliaid a gwrteithiau.

Bwyd

Ein nod yw sicrhau bod:

  • bwydydd yn cael eu disgrifio a'u labelu'n gywir
  • bwydydd yn bodloni safonau ansawdd a chyfansoddiad
  • gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd yn cael eu harolygu'n rheolaidd.
  • bwyd yn ddiogel i'w fwyta a'i fod heb ei halogi â chemegion

Samplu

Mae hawl gyda swyddogion i gymryd samplau fel rhan o’u hymweliadau arferol.  Bydd y samplau yn cael eu dadansoddi i sicrhau eu bod nhw'n bodloni gofynion cyfreithiol. Er enghraifft, os oes amheuaeth bod busnes yn gwerthu bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’, bydd swyddogion yn cynnal profion prynu. Bydd y rhain yn fodd i wybod a oes tramgwydd troseddol wedi’i gyflawni.   

Mae’r Garfan wedi cymryd rhan mewn prosiectau samplu gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd a chyrff allanol eraill.  

Safonau Porthiant Anifeiliaid Amaethyddol

Ein nod yw sicrhau bod:

  • porthiant anifeiliaid a gwrteithiau o ansawdd boddhaol ac yn ddiogel i'w defnyddio
  • halogi porthiant anifeiliaid yn cael ei atal, a'r perygl o halogi'n cadwyn fwyd yn cael ei leihau

Rhagor o wybodaeth

Mae deddfwriaeth.gov.uk
yn darparu testun llawn o'r Deddfau Seneddol.

  • Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau  
    Gweithio gyda busnesau, gweithwyr a defnyddwyr er mwyn cynyddu cynhyrchiant y DU a’i gwneud yn wlad fwy cystadleuol er mwyn sicrhau ffyniant i bawb
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru 
    Corff annibynnol sy’n diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn cysylltiad â bwyd. Cafodd ei sefydlu drwy Ddeddf Seneddol yn 2000. 
Carfan Safonau Bwyd ac Amaeth

 

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301