Ein Cronfa
Ym mis Chwefror 2020, daeth Storm Dennis â lefelau o law trwm heb eu tebyg, ac fe gyrhaeddodd tair afon Rhondda Cynon Taf y lefelau uchaf a gofnodwyd ar eu cyfer. Cafodd nifer o fusnesau eu heffeithio'n sylweddol gan y llifogydd a ddilynodd.
Bydd y Grant Gwrthsefyll Llifogydd yn rhoi cefnogaeth i fusnesau i weithredu mesurau yn eu heiddo a fydd yn gwella gwytnwch y busnes er mwyn ymdopi ag unrhyw ddigwyddiadau posibl o ganlyniad i dywydd garw yn y dyfodol.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Busnesau bach a chanolig eu maint wedi'u lleoli yn ardaloedd manwerthu'r trefi canlynol – Aberdâr; Glynrhedynog; Llantrisant; Aberpennar; Pontypridd; Y Porth; Tonypandy; a Threorci.
Bydd blaenoriaeth i'r busnesau hynny sy'n gallu darparu tystiolaeth eu bod nhw wedi'u heffeithio gan y llifogydd yn ystod Storm Dennis.
Rhagor o Wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am y costau cymwys a faint o arian rydych chi'n cael gwneud cais amdano, darllenwch y Nodyn Canllaw.
Cyflwyno cais
Os ydych chi'n meddwl bod eich prosiect yn gymwys, anfonwch e-bost at y Garfan Adfywio i ofyn am ffurflen gais. Nodwch enw'ch busnes a'ch cyfeiriad masnachu.
E-bost: adfywio@rhondda-cynon-taf.gov.uk