Skip to main content

Hwb Cyngor a Chyfarwyddyd Busnes

Yn y pendraw, mae llwyddiant pob busnes yn cyfrannu at sicrhau dyfodol economaidd a llwyddiant i Rondda Cynon Taf a’i phobl.

Os ydych chi’n fusnes sydd wedi ennill ei blwyf, yn unigolyn sy’n bwriadu dechrau busnes neu’n unigolyn/ grŵp o bobl sy’n awyddus dechrau menter gymdeithasol, mae rhwydwaith cadarn o wasanaethau cymorth ar gael i ddiwallu eich anghenion busnes.

 

Mae'r Uwchadran Materion Ffyniant a Datblygu yn gweithio gyda busnesau lleol, cymunedau a phartneriaid er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn diwallu anghenion busnesau drwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau Cymorth i Fusnesau.

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i wneud defnydd o’n gwasanaethau, ffoniwch 01443 281124.

Mae’r dolennau isod yn darparu gwybodaeth, arweiniad a chymorth er mwyn helpu eich busnes i lwyddo. Dyw Cyngor RhCT ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Os ydych chi’n ystyried sefydlu’ch busnes yng Nghymoedd De Cymru neu eich bod chi’n chwilio am adeiladau newydd i ehangu’ch busnes, gallan ni fod o help.
Mae ariannu yn hanfodol i ddatblygiad eich busnes –gwnewch y gorau o’r arian sydd ar gael i chi gyda’n cymorth ni.
Rhestr o achlysuron busnes a’r cyrsiau hyfforddi diweddaraf sydd ar gael yng Nghymru.
Meddwl am ddechrau’ch busnes eich hun? Os ydych chi’n benderfynol o droi eich syniad yn realiti, gall Carfan Cynghori Llywodraeth Cymru gynnig cyngor a chymorth gwerthfawr i chi.
Cyngor ac awgrymiadau ar sut i baratoi eich busnes ar gyfer tendro.