Skip to main content

Prisio Trethi Busnes

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn pennu gwerth ardrethol ar gyfer eich eiddo. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r gwerth yma i gyfrifo faint fydd eich bil treth.

Bydd y gwerth ardrethol yn cael ei luosi â ffigwr sy’n cael ei osod yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru (y lluosydd) er mwyn cyfrifo’r swm sy’n daladwy.

A all y gwerth ardrethol newid?

Gall yr Asiantaeth newid y gwerth os yw hi o’r farn bod newid sylweddol wedi bod i’r eiddo, er enghraifft, os oes estyniad newydd, neu os yw’r adeilad wedi cael ei rannu neu’i gyfuno.

Mewn rhai achosion, caiff talwr y trethi busnes (a phobl benodol eraill, gan gynnwys y Cyngor, sydd â buddiant yn yr eiddo) ofyn i’r gwerth ardrethol gael ei adolygu.

Os yw talwr y trethi a’r Asiantaeth yn methu â chytuno ar y gwerth ardrethol sy’n cael ei awgrymu, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at y Tribiwnlys Prisio.

Ydw i’n gallu apelio yn erbyn prisiad fy eiddo?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio pob eiddo busnes ar gyfer ardrethi busnes. Mae’r prisiad yn seiliedig ar wybodaeth sydd gan y VOA am eich eiddo. Gallwch weld a diweddaru’r wybodaeth hon yn gov.uk/voa/valuation.

Gallwch gysylltu â’r VOA yn gov.uk/cysylltu-voa. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu â’r VOA ar 03000 505 505.