Skip to main content

Trethi Busnes - Gwybodaeth a chyngor

Mae Trethi Busnes yn cael eu casglu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’r swm terfynol yn cael ei roi mewn ‘pwll canolog’, ac yna’n cael ei ddosbarthu ar draws Cymru er mwyn helpu i dalu am eich Llywodraeth Leol a gwasanaeth yr Heddlu.

Math o drethi lleol yw Trethi Busnes ond dydyn nhw ddim yn daliadau uniongyrchol ar gyfer darparu gwasanaethau megis casglu gwastraff busnes. Pe hoffech chi i i rywun gasglu’ch gwastraff, fe gewch chi ragor o fanylion trwy ddarllen ein gwybodaeth am wastraff masnachol.  

Mae Trethi Busnes yn daladwy gan feddianwyr eiddo masnachol, er enghraifft, siopau, swyddfeydd, tafarndai, warysau (warehouses) a ffatrïoedd.

Serch hynny, mae buddiannau masnachol eraill y mae rhaid talu trethi busnes amdanyn nhw, er enghraifft, mastiau telathrebu, hawliau hysbysebu, peiriannau arian parod a meysydd parcio.  

Os ydych chi’n defnyddio unrhyw ran o eiddo busnes, byddwch chi’n atebol i dalu trethi busnes i’r Cyngor, hyd yn oed os oes cytundeb rhent sy’n cynnwys trethi busnes gyda chi.

Hyd yn oed lle bo eiddo busnes yn wag neu heb ei feddiannu, bydd rhaid i’r person sydd â’r hawl i’w feddiannu dalu trethi busnes (trethi eiddo gwag).  

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhoi gwerth ardrethol i’ch eiddo, a bydd hynny’n cael ei ddefnyddio i bennu swm y trethi bydd rhaid i chi’u talu.