Skip to main content
 

Cerdyn Aur

Mae'r fenter Cerdyn Aur yn cefnogi athletwyr rhyngwladol, gan gynnig mynediad am ddim i'n cyfleusterau i'w helpu nhw i hyfforddi. Mae'r cerdyn yn ddilus am flwyddyn o'r dyddiad y cân nhw eu dewis i gynrychioli'u gwlad yn rhyngwladol ac mae dim ond ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf.

Os ydych chi'n gymwys ar gyfer Cerdyn Aur, bydd hawl gyda chi i ddefnyddio'r canlynol am ddim:

  • Ystafelloedd Ffitrwydd.
  • Pyllau Nofio.
  • Cyfleusterau chwaraeon penodol
    • Mae'n bosibl y bydd cyfleusterau eraill ar gael i ddeiliad Cerdyn Aur, gan ddibynnu ar ba gamp maen nhw'n cynrychioli'u gwlad ynddi ac yn sgil trafod â rheolwyr y ganolfan.
  • Ystafelloedd newid a chawodydd


Llenwch y ffurflen hon Ffurflen Gais Cerdyn Aur a'i hanfon mewn neges e-bost i AelodaethHamdden@rctcbc.gov.uk.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas