Skip to main content

Cynyddu darpariaeth rhandiroedd yn Rhondda Cynon Taf 2024–25

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru, i ateb y galw cynyddol am randiroedd.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i ateb y galw cynyddol am randiroedd.

Mae'r pecyn cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi'i gynllunio i gynyddu nifer y rhandiroedd a mannau tyfu bwyd mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae wir eu hangen.

Mae prosiectau eleni wedi'u lleoli mewn dau safle yng Nghwm Rhondda.

Bydd Rhondda Cynon Taf yn ailddefnyddio tir ar safle hen bwll padlo Parc Ynyscynon, er mwyn creu safle rhandiroedd newydd. Bydd y safle yma'n cynnwys 10 rhandir maint llawn.

Mae gwaith wedi dechrau'n barod ar safle diffaith Teras Arfryn yn ardal Tylorstown, lle bydd lle i 2 deulu dyfu bwyd yn yr ardal leol. Mae’r gwaith ar y safle yma’n cael ei flaenoriaethu er mwyn sicrhau bod modd defnyddio’r safle yn ystod y tymor yma.

Rydyn ni'n bwriadu cwblhau prosiect Ynyscynon erbyn mis Mawrth 2025, er mwyn iddo fod yn barod ar gyfer tymor tyfu'r flwyddyn nesaf.

Mae cyllid wedi cael ei flaenoriaethu eleni ar gyfer:

  • Defnyddio lleiniau diffaith unwaith eto
  • Creu rhandiroedd mewn safleoedd newydd

Elfennau eraill sydd wedi'u hystyried yw:

  • Gwella hygyrchedd
  • Gwella diogelwch ar safleoedd
  • Gwella'r ffordd mae safleoedd yn cael eu rheoli
  • Cynyddu ailgylchu/adnewyddadwyedd
  • Cynyddu bioamrywiaeth/nifer y peillwyr

Yn rhan o'r broses yma, ystyrion ni werth ecolegol pob safle a chynnal asesiad cyn i unrhyw waith ddechrau.  Roedd hyn yn golygu asesu coed, prysgoed a mannau â glaswellt. Byddai unrhyw dystiolaeth o bresenoldeb bywyd gwyllt wedi cael ei nodi a byddai camau priodol wedi'u cymryd i sicrhau eu diogelwch a chadwraeth eu cynefinoedd. Wrth ddechrau'r gwaith, byddwn ni'n archwilio'r safleoedd yn rheolaidd er mwyn sicrhau na fydd tarfu ar y bywyd gwyllt yn ystod y broses.   

Er bod rhandiroedd yn cael eu defnyddio fel arfer ar gyfer tyfu cnydau, blodau neu fel lle ar gyfer hamdden, mae modd i drin y tir gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles unigolion sy'n byw yn yr ardal ac ateb y galw am ragor o safleoedd tyfu ar randiroedd, mae hefyd modd iddo greu lloches i'n bywyd gwyllt trefol trwy ddarparu ffynhonnell fwyd a chynefin i nythu a bridio ar gyfer ystod o bryfed peillio, adar, draenogod a mamaliaid bach, yn ogystal ag ymlusgiaid ac amffibiaid.

Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi cynnal ymchwil hefyd ynglŷn â nifer y bobl ar y rhestrau aros ac am ba hyd maen nhw'n aros. Datgelodd yr ymchwil nifer o safleoedd yng Nghymru lle mae nifer fawr o bobl ar restr ac yn aros am flynyddoedd i gael llain. Nod y cyllid yw targedu'r ardaloedd hynny yn gyntaf. 
Mae'r cyllid yma, sy'n ategu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ceisio galluogi newid cadarnhaol sy'n arwain at Gymru fwy cydnerth, diogel ac iach drwy gynyddu nifer y rhandiroedd yng Nghymru, yn cael ei arwain drwy ddull wedi'i gydlynu.

Hoffech chi ofyn cwestiwn am y cynlluniau sydd ar y gweill? Ffoniwch ein carfan Rhandiroedd ar 01443 562 243 neu anfon e-bost i'r cyfeiriad yma: rhandiroedd@rctcbc.gov.uk

 "Ewch amdani, tyfwch eich bwyd eich hun"