Skip to main content

Gadael Gofal

Beth yw'r gwahanol grwpiau o Bobl Ifainc?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod rhaid i ni hyrwyddo lles person ifanc - hyd yn oed ar ôl iddyn nhw adael y system ofal.

Mae chwe grŵp (neu 'categori') o bobl ifainc sy'n gallu cael cymorth. Mae gan bob grŵp hawliau gwahanol.

Grŵp 1 (Person Ifanc 16 neu 17 oed sy'n derbyn gofal)

Dyma berson , a oedd hefyd yn derbyn gofal ar neu cyn eu pen-blwydd yn 16 oed, ac sy’n parhau i dderbyn gofal. Maen nhw hefyd wedi derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers eu pen-blwydd yn 14 oed.

Grŵp 2 (Person Ifanc sy'n iau nag 18 oed sy'n gadael y system ofal)

Dyma berson ifanc sydd rhwng 16 ac 17 oed ac sydd ddim yn derbyn gofal mwyach. Ond roedden nhw yn derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers eu pen-blwydd yn 14 oed.

Grŵp 3 (Person Ifanc sy'n hŷn nag 18 oed sydd wedi gadael y system ofal)

Dyma rhywun sydd rhwng 18 - 21 oed a oedd  wedi derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers eu pen-blwydd yn 14 oed.

Grŵp 4 (Person Ifanc sy'n ailgysylltu â'r system ofal at ddibenion addysg neu hyfforddiant)

Dyma rywun sydd rhwng 21 - 25 oed sydd wedi rhoi gwybod i ni eu bod yn dilyn, neu'n dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant.

Grŵp 5 (Person Ifanc sydd wedi gadael y system ofal o dan Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig)

Dyma rywun sy'n hŷn na 16 oed (heb fod yn 21 oed eto) sydd yn, neu oedd o dan Orchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig pan oedden nhw'n 18 oed , ac oedd yn derbyn gofal cyn i'r gorchymyn gael ei wneud.

Grŵp 6 (Pobl Ifanc nad ydynt yn gwymwys fel 'person sy'n gadael y system ofal')

Dyma berson ifanc rhwng 16 a 21 oed nad ydyn nhw'n gallu cael eu gosod yn unrhyw un o'r grwpiau uchod, ond wedi treulio o leiaf 3 mis oddi wrth eu teuluoedd pan oedden nhw'n 16 neu'n 17 oed oherwydd:

  • Roedden nhw'n derbyn gofal gan y Cyngor neu,
  • Roedden nhw mewn cartref preifat i blant neu,
  • Roedden nhw'n byw mewn llety wedi'i ddaprrau gan y GIG, y Cyngor, neu leoliad addysg neu,
  • Roedden nhw'n derbyn gofal gan Rieni maeth.

Pa hawliau sydd gan bob grŵp?

Rhaid i bobl ifainc yng Ngrŵp 1, 2, 3 a 4 gael cynghorydd personol hyd nes y byddan nhw wedi gorffen addysg amser llawn fan lleiaf.

Dylai fod gan bobl ifainc yng Ngrŵp 2, 3 a 4 cynllun sy'n nodi pa gymorth a chyngor sydd eu hangen arnyn nhw. Byddwn ni'n sicrhau os ydych chi yng Ngrŵp 2, eich bod chi'n derbyn digon o arian i fyw, lle addas i fyw, a digonedd o gymorth.

Byddwn ni'n cefnogi oedolion ifainc yng Ngrŵp 3 drwy helpu gyda'r costau o fyw yn agos at eich swydd, neu i fyw yn agos at addysg a hyfforddiant os ydych chi'n chwilio am swydd. Rhaid i chi wneud grant tuag at gostau addysg neu hyfforddiant neu helpu gyda'ch lles.

Byddwn ni'n sicrhau bod gan yr holl bobl ifainc yng Ngrŵp 3 sy'n symud i ffwrdd i fynd i'r brifysgol neu'r coleg rhywle i fyw yn ystod y gwyliau.

Byddwn ni'n helpu oedolion ifainc yng Ngrŵp 4 hyd nes iddyn nhw adael addysg neu hyfforddiant.

Bydd angen help gennym ni ar rai pobl yng Ngrŵp 5 a Grŵp 6. Mae modd i ni helpu i dalu costau byw, addysg neu hyfforddiant neu ddarparu llety.