Skip to main content

Gwybodaeth a Chyngor

Beth yw ystyr Gadael Gofal?

Mae rhywun sy'n gadael gofal yn berson ifanc sydd wedi derbyn gofal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf am o leiaf 13 wythnos ers ei ben-blwydd yn 14 oed, ac sydd wedi bod mewn gofal ar ei ben-blwydd yn 16 oed.

Beth yw'r Gwasanaeth 16+?

Gall dod o hyd i'ch ffordd mewn bywyd fod yn anodd, yn enwedig os ydych yn berson ifanc sy'n ceisio bod yn annibynnol. Gall fod yn gyfnod cyffrous a brawychus, felly, mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf wasanaeth '16+'. Bydd y gwasanaeth yn eich cefnogi chi i wneud yn siŵr bod y newid yma mor rhwydd â phosibl.

Byddwn ni'n gweithio gyda phobl ifainc rhwng 16 a 21 oed (neu hyd at 24 oed, mewn rhai achosion) sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi bod yn derbyn gofal, gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Diben ein gwaith yw eich cefnogi chi a'ch helpu chi i feddwl am yr hyn gallwch chi ei wneud wrth baratoi ar gyfer byw ar eich pen eich hun, pan fyddwch chi'n peidio â derbyn gofal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Pa gymorth allwn ni ei gynnig?

Rydyn ni'n cynnig cymorth ynglŷn ag amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar bobl ifainc, gan gynnwys materion tai, arian, hyfforddiant, perthnasau, iechyd a lles. Gallwn ni eich helpu chi gyda:

  • Paratoi ar gyfer byw'n annibynnol;
  • Dod o hyd i waith neu ddechrau ar gwrs hyfforddi;
  • Pontio o fyd gofal i'ch cartref eich hun (pan fyddwch chi'n barod);
  • Cynllunio ar gyfer yr annisgwyl;
  • Cyflawni eich nodau a'ch uchelgeisiau;
  • Rhoi trefn ar eich sefyllfa ariannol

Beth yw ystyr Ymgynghorydd Personol?

Bydd Ymgynghorydd Personol yn eich helpu chi i gynllunio eich dyfodol chi ac eich cynorthwyo chi i gyflawni eich amcanion. Ar ôl eich pen-blwydd yn 16 oed, bydd eich Ymgynghorydd Personol yn gweithio'n agos gyda chi, gan wneud yn siŵr bod eich Cynllun Llwybr yn realistig ac yn parhau i ddiwallu eich anghenion. Bydd eich Ymgynghorydd Personol yn sicrhau bod eich Cynllun Llwybr yn cael ei adolygu'n rheolaidd, sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch ac yn aros mewn cysylltiad gyda chi ar eich taith i fod yn oedolion.

Beth yw ystyr Cynllun Llwybr?

Pan fyddwch yn cael eich cyfeirio at y Gwasanaeth 16+, bydd asesiad o'ch anghenion yn cael ei gynnal. Bydd yr asesiad yn cynnwys ymweliad a thrafodaeth gyda chi am eich syniadau ar gyfer eich dyfodol, yr hyn yr ydych ei weld yn digwydd, eich cryfderau, anghenion, dymuniadau a theimladau.  Bydd yr asesiad anghenion yn amlinellu'r hyn sydd ei angen arnoch a sut y byddwch yn cael cymorth i gwrdd â'ch anghenion. Mae modd iddo gynnwys gwybodaeth, cyngor neu gymorth. Gall hyn fod yn gymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol.  Bydd yr wybodaeth rydyn ni'n ei gasglu yn helpu i lunio Cynllun Llwybr. Mae'r asesiad anghenion yn cynnwys gwybodaeth ynghylch: 

  • Eich anghenion
  • Eich cryfderau
  • Eich canlyniadau neu dargedau

Byddwch chi a'ch Gweithiwr Cymdeithasol yn casglu'r wybodaeth am eich asesiad anghenion a fydd wedyn yn cael ei defnyddio i ffurfio eich Cynllun Llwybr. Byddwch yn derbyn copi o'r cynllun, a bydd y cynllun yma gennych chi tan eich pen-blwydd yn 21 oed (neu'n 25 oed, os byddwch chi mewn addysg bellach neu hyfforddiant)

Mae eich Cynllun Llwybr yn ddogfen sy'n nodi gwahanol gamau y mae angen i chi eu cyflawni a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi i'ch helpu chi i fod yn annibynnol. Dylai'ch dymuniadau a'ch nodau ar gyfer y dyfodol – er enghraifft ble hoffech chi fyw, eich awydd i barhau mewn addysg neu ddod o hyd i swydd – fod wrth wraidd eich Cynllun Llwybr.  Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am:

  • Mathau gwahanol o lety addas,
  • Cymorth ariannol gallwch chi ei gael,
  • Cefnogaeth bersonol fydd yn cael ei chynnig i chi,
  • Rhaglenni i ddatblygu sgiliau ar gyfer byw'n annibynnol,
  • Pwy ydych chi,
  • Eich cyfleoedd gwaith, addysg neu hyfforddiant,
  • Cyswllt gyda'ch teulu,
  • Eich anghenion iechyd,
  • Cynllun wrth gefn os bydd pethau'n mynd o chwith.

Byddwch chi a'ch Gweithiwr Cymdeithasol yn diweddaru'ch Cynllun Llwybr, a byddwch chi'n derbyn copi ohono.  Bydd y Cynllun yma gennych chi tan eich pen-blwydd yn 21 oed (neu'n 25 oed, os byddwch chi mewn addysg bellach neu hyfforddiant).