Skip to main content

Llety â Chymorth

Beth yw Llety â Chymorth?

Mae’r Cynllun Llety â Chymorth yn darparu llety diogel a sefydlog i bobl ifainc rhwng 16 a 21 oed sy'n agored i niwed ac sy'n methu â byw gyda'u teuluoedd, sy'n gadael y system ofal neu sy'n ddigartref.

Caiff hyn ei gyflawni drwy alluogi pobl ifainc i gael mynediad at lety mewn aelwydydd preifat cymeradwy ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd gan y bobl sy'n darparu llety â chymorth ystafell sbâr sydd ar gael i berson ifanc mewn angen a byddan nhw'n darparu cymorth ac arweiniad wrth i’r person ifanc bontio i fyw'n annibynnol.

Pwy all ddod yn Aelwyd Llety â Chymorth?

Mae modd i bobl o amrywiaeth o gefndiroedd ac amgylchiadau personol gynnig Aelwydydd Llety â Chymorth.

Mae modd i chi ddod yn Aelwyd Llety â Chymorth waeth beth yw eich statws priodasol - does dim ots os ydych chi'n sengl, wedi priodi, yn byw ar eich pen eich hun neu gyda theulu, neu os ydych chi'n gyflogedig neu beidio. Gallwch chi fod yn berchen ar dŷ eich hun neu'n rhentu (rhaid cael caniatâd gan eich landlord), ond mae meddu ar rinweddau megis bod yn berson gofalgar, empathetig, angerddol ac amyneddgar yn bwysicach na hynny.

Mae profiad o weithio gyda phobl ifainc neu fagu eich plant eich hunain yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol a does dim rhaid cael unrhyw gymwysterau ffurfiol. Rydyn ni'n gofyn bod bob ymgeisydd yn hŷn na 21 oed, bod gyda nhw ystafell sbâr a'u bod nhw'n hapus i rannu eu cartref â pherson ifanc.

Beth sydd i ddisgwyl o Aelwyd Llety â Chymorth?

Mae disgwyl i Aelwydydd Llety â Chymorth gefnogi pobl ifainc a'u paratoi i fyw'n annibynnol. Gallai hyn gynnwys cynnig cymorth ymarferol gyda thasgau megis coginio, glanhau, cyllido, gwneud apwyntiadau a chadw'n iach. Mae pob person ifanc yn wahanol ac mae eu hanghenion unigol yn wahanol - byddwn ni'n trafod yr anghenion perthnasol â chi ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod y person ifanc yn gweddu eich aelwyd a'ch amgylchiadau chi.

Faint o arian mae Aelwydydd Llety â Chymorth yn ei dderbyn?

Ar hyn o bryd, mae Aelwydydd Llety â Chymorth yn derbyn £170.00 yr wythnos, ac mae'r swm hynny'n cael ei dalu bob pythefnos. Mae'r swm yma'n cynnwys arian rent, gwasanaethau, bwyd a chostau cymorth yn ogystal â chyfraniad gwerth £10 gan y person ifanc. Caiff tâl cadw gwerth £20 yr wythnos ei dalu i ddarparwyr ar ôl cadarnhau bod gyda nhw ystafell wag a'u bod nhw'n aros am berson ifanc.

Sut ydw i'n dod yn Aelwyd Llety â Chymorth?

Ar ôl mynegi diddordeb, bydd Gweithiwr Cymdeithasol Llety â Chymorth yn cysylltu â chi i drefnu sgwrs anffurfiol ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi. Os ydych chi'n dymuno parhau i gam nesaf y broses, bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn cynnal asesiad er mwyn dysgu rhagor amdanoch chi, eich aelwyd a'ch amgylchiadau. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw berson ifanc sy'n dod i'ch cartref yn ddiogel ac er mwyn deall a oes angen rhagor o gymorth arnoch chi.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r garfan Llety â Chymorth:

Ffoniwch neu anfon neges destun neu WhatsApp ar 07824541613 / 07747485829

neu anfon e-bost:  LletyaChymorth@rctcbc.gov.uk

neu drwy'r post: 16+Gorllewin, Tŷ Trevithick, Abercynon, CF45 4UQ

neu bwriwch olwg ar ein gwefan: www.rctcbc.gov.uk/lletyachymorth