Skip to main content

Budd-daliadau a Hawliau

Pa Fudd-daliadau a Chymorth mae gyda fi Hawl i'w derbyn?

Credyd Cynhwysol

Mae modd i chi ymgeisio am Gredyd Cynhwysol os ydych chi'n derbyn cyflog isel neu'n ddi-waith. Fel arfer, rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn er mwyn hawlio Credyd Cynhwysol, ond mae rhai amgylchiadau penodol yn golygu bod modd i chi wneud hawliad yn 16 neu 17 oed. Mae modd dod o hyd i'r meini prawf er mwyn hawlio Credyd Cynhwysol yn 16 neu 17 oed ar wefan Llywodraeth y DU: Meini Prawf Cymhwysedd: Credyd Cynhwysol - GOV.UK (www.gov.uk)[MA1] 

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu bob mis, ond mae’n bosibl y byddwch chi’n  aros 5 wythnos am eich taliad cyntaf. Mae'r taliad yn cael ei dalu yn uniongyrchol i gyfrif yn eich enw chi. Rhaid iddo gael ei dalu i gyfrif cyfredol yn hytrach na chyfrif cynilo.

Mae gan wefan Understanding Universal Credit lawer o wybodaeth ddefnyddiol all fod o gymorth i chi Understanding Universal Credit - Home

Mae Credyd Cynhwysol yn cymryd lle Budd-dal Tai yn y rhan fwyaf o achosion, felly os ydych chi'n gyfrifol am dalu rhent ar gyfer y cartref rydych chi'n byw ynddo, neu os oes gyda chi forgais, mae modd i Gredyd Cynhwysol gynorthwyo â'r gost yma. Caiff hyn ei alw'n Costau Tai Credyd Cynhwysol. Fodd bynnag, mae rhai sefyllfaoedd lle na fydd Credyd Cynhwysol yn cymryd lle’r Budd-dal Tai, ac mae modd i chi wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai. Byddai hyn yn berthnasol os ydych chi'n byw mewn tŷ â chymorth, tŷ gwarchod neu mewn llety dros dro.

Mae modd i sefydliad Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf ddarparu llawer o wybodaeth a chyngor defnyddiol am fudd-daliadau ac eich hawliau: Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf (carct.org.uk)

Treth y Cyngor- Eithriadau

Yn rhan o gyfrifoldebau Rhianta Corfforaethol Cyngor Rhondda Cynon Taf, os ydych chi'n berson 18-25 oed sydd wedi gadael gofal, byddwch chi wedi'ch eithrio rhag talu treth y cyngor. Mae modd i'ch Ymgynghorydd Personol eich cynorthwyo chi i wneud cais am eithriad treth y Cyngor drwy gwblhau a llofnodi 'Adran 2' y ffurflen eithrio. Mae modd dod o hyd i'r ffurflen, ynghyd â rhagor o wybodaeth yma: Eithrio Pobl sy'n Gadael Gofal | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Cymorth â Chostau Iechyd

Yn rhan o'r Cynllun Incwm Isel, mae’n bosibl y byddwch chi'n gymwys i dderbyn cymorth â chostau triniaeth deintyddol y GIG, profion golwg, sbectol a lensys cyffwrdd, yn ogystal â chludiant hanfodol i'r ysbyty ac yn ôl ar gyfer triniaethau’r GIG os ydych chi dan ofal meddyg ymgynghorol.

Bwriwch olwg ar wefan Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth Cynllun Incwm Isel: cymorth â chostau iechyd y GIG | LLYW.CYMRU