Skip to main content

Gweithio mewn Lleoliad y tu allan i'r Ysgol

Mae Lleoliad y tu allan i'r Ysgol fel arfer yn gweithredu y tu allan i oriau ysgol arferol, un ai cyn yr ysgol neu wedi i'r ysgol orffen am y diwrnod, neu yn ystod gwyliau'r ysgol.

Fel arfer, bydd Lleoliad y tu allan i'r Ysgol yn gofalu am blant oed ysgol, gan ddibynnu ar y lleoliad. Gall hyn amrywio o 3 i 12 mlwydd oed.

Er mwyn gweithio mewn Lleoliad y tu allan i'r Ysgol, rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Chwarae dilys. Mae rhai lleoliadau yn gallu derbyn staff nad oes gyda nhw gymhwyster, gyda'r disgwyl y byddwch chi'n gweithio tuag at gymhwyster wrth weithio, mae hyn yn dibynnu ar y lleoliad.  Mae modd i chi ddysgu rhagor am ba gymwysterau sydd eu hangen drwy glicio ar y ddolen isod: https://chwarae.cymru/gwaith-chwaraewysterau-sydd-eu-hangen-ar-gyfer-gwaith-chwarae/.

Byddwch chi angen isafswm o Dystysgrif Diogelu a Chymorth Cyntaf Plant Lefel 2 sydd wedi'i hennill o fewn y 3 blynedd ddiwethaf. Mae’r rhain yn ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) sy'n nodi gofynion ar gyfer pob lleoliad Gofal Plant yng Nghymru. RHAID i unrhyw leoliad sy'n darparu gofal am fwy na 2 awr y diwrnod gofrestru gydag AGC.

Os ydy'r lleoliad y darparu byrbrydau, byddai'n arfer dda i chi hefyd feddu ar Dystysgrif Hylendid Bwyd dilys.