Skip to main content

Gweithio mewn Lleoliad Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

Mae Lleoliadau Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg yn cynnig sawl math o ofal plant, megis Gofal Diwrnod Llawn, Gofal Sesiynol neu Ofal y tu allan i'r Ysgol.  Y math mwyaf cyffredin o Ofal Plant Cyfrwng Cymraeg yw Cylch Meithrin.

Mae lleoliad Cylch Meithrin fel arfer yn cael ei gynnal mewn adeilad annomestig, megis canolfan cymuned, eglwys neu adeilad ysgol. Mae lleoliadau Cylch Meithrin fel arfer yn derbyn plant rhwng 2 a 5 mlwydd oed.

Mae Cylchoedd Meithrin fel arfer yn cynnig sesiynau hyd at 4 awr o ofal i blentyn mewn diwrnod, gyda rhai yn cynnig dau sesiwn y dydd - yn y bore a'r prynhawn.  Mae sawl Cylch Meithrin wedi ymestyn eu horiau gan gynnig gofal yn ystod amser cinio ar gyfer plant oed meithrin, neu yn darparu gofal cyn ac ar ôl ysgol.

Er mwyn gweithio mewn lleoliad Cylch Meithrin, rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD), bydd y lefel fyddwch chi ei hangen yn dibynnu ar eich swydd yn y lleoliad. Mae rhai lleoliadau yn gallu derbyn staff nad oes gyda nhw gymhwyster, gyda'r disgwyl y byddwch chi'n gweithio tuag at gymhwyster wrth weithio, mae hyn yn dibynnu ar y lleoliad.  Mae modd i chi ddysgu rhagor am ba gymwysterau sydd eu hangen drwy glicio ar y ddolen isod:

https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/fframwaith-cymwysterau/rol-swyddi/gofal-dydd-sesiynol.

Os bydd y Cylch Meithrin yn cynnig Gofal y tu allan i oriau Ysgol  hefyd, efallai byddwch chi angen cymhwyster Pontio i Waith Chwarae hefyd er mwyn gofalu am blant sy'n hŷn nag 8 oed.

Am fod y lleoliadau yma'n darparu gofal cyfrwng Cymraeg, bydd angen i chi allu siarad Cymraeg yn hyderus.

Byddwch chi angen isafswm o Dystysgrif Diogelu a Chymorth Cyntaf Plant Lefel 2 sydd wedi'i hennill o fewn y 3 blynedd ddiwethaf. Mae’r rhain yn ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) sy'n nodi gofynion ar gyfer pob lleoliad Gofal Plant yng Nghymru. RHAID i unrhyw leoliad sy'n darparu gofal am fwy na 2 awr y diwrnod gofrestru gydag AGC.

Os ydyr lleoliad yn darparu byrbrydau, byddai'n arfer dda i chi hefyd feddu ar Dystysgrif Hylendid Bwyd dilys.