Mae Lleoliad Gofal Sesiynol fel arfer yn gweithredu mewn adeilad annomestig, megis canolfan cymuned, eglwys neu adeilad ysgol. Mae Lleoliadau Gofal Sesiynol fel arfer yn gofalu am blant rhwng 2 a 5 mlwydd oed.
Mae Lleoliadau Gofal Sesiynol fel arfer yn darparu hyd at 4 awr o ofal ar gyfer plentyn mewn diwrnod. Mae'r rhan fwyaf o Leoliadau Gofal Sesiynol yn cynnig dau sesiwn y diwrnod - yn y bore ac yn y prynhawn. Ddylai plant ddim mynychu mwy na 5 sesiwn yr wythnos a rhaid cael toriad rhwng pob sesiwn lle nad oes unrhyw blant yn bresennol. Mae nifer o Leoliadau Gofal Sesiynol yn cynnig 'gofal plant cofleidiol' ar gyfer plant meithrin rhan amser a byddan nhw un ai yn mynd â neu gasglu'r plant o'u hysgol neu ddarparwr addysg.
Er mwyn gweithio mewn Lleoliad Gofal Sesiynol byddwch chi angen cymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD), bydd y lefel byddwch chi ei hangen yn dibynnu ar eich swydd yn y lleoliad. Mae modd i rai lleoliadau dderbyn staff nad ydyn nhw'n meddu ar gymhwyster, gyda'r disgwyl y byddwch chi'n gweithio tuag at ennill eich cymhwyster wrth weithio yn y swydd, mae hyn yn dibynnu ar y lleoliad. Mae modd i chi ddysgu rhagor am ba gymwysterau byddwch chi eu hangen drwy glicio ar y ddolen isod:
https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/fframwaith-cymwysterau/rol-swyddi/gofal-dydd-sesiynol
Byddwch chi hefyd angen isafswm o Dystysgrif Diogelu a Chymorth Cyntaf i Blant Lefel 2 sydd wedi'i hennill o fewn yn dair blynedd ddiwethaf. Mae’r rhain yn ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) sy'n nodi gofynion ar gyfer pob lleoliad Gofal Plant yng Nghymru. RHAID i unrhyw leoliadau sy'n gweithredu am fwy na 2 awr yr wythnos gofrestru gydag AGC.
Os ydy'r lleoliad y darparu byrbrydau, byddai'n arfer dda i chi hefyd feddu ar Dystysgrif Hylendid Bwyd dilys.