Skip to main content

Gweithio mewn Lleoliad Meithrin Oriau Dydd

Mae Lleoliad Meithrin Oriau Dydd fel arfer yn cael ei gynnal mewn adeilad annomestig, megis uned ddiwydiannol, neu adeilad pwrpasol. Mae modd i Leoliad Meithrin Oriau Dydd ofalu am blant rhwng 6 wythnos a 12 mlwydd oed.

Mae Lleoliad Meithrin Oriau Dydd fel arfer yn darparu gofal drwy gydol yr wythnos gyfan rhwng 7am a 6pm, fodd bynnag, mae modd i'r oriau agor amrywio gan ddibynnu ar y lleoliad.  Mewn Lleoliad Meithrin Oriau Dydd, mae modd i rieni ddanfon y plant i'r lleoliad ar ddechrau'r dydd a'u casglu ar ddiwedd y dydd, mae rhai lleoliadau yn darparu cinio a byrbrydau (am bris) neu mae modd i rieni ddarparu pecyn bwyd ar gyfer eu plentyn.

Mae rhai Lleoliadau Meithrin Oriau  Dydd yn cynnig gwasanaeth casglu plant o'r ysgol, boed hyn yn ystod amser cinio ar gyfer plant sy'n mynychu'r ysgol yn rhan amser, neu ar ddiwedd y diwrnod ysgol, ac yn gofalu am y plentyn yn eu lleoliad, ond unwaith yn rhagor, mae hyn yn dibynnu ar y lleoliad.

Er mwyn gweithio mewn Lleoliad Meithrin Oriau Dydd, rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD), bydd y lefel byddwch chi ei hangen yn dibynnu ar eich swydd yn y lleoliad. Mae rhai lleoliadau yn gallu derbyn staff nad oes gyda nhw gymhwyster, gyda'r disgwyl y byddwch chi'n gweithio tuag at gymhwyster wrth weithio, mae hyn yn dibynnu ar y lleoliad. Mae modd i chi ddysgu rhagor am ba gymwysterau sydd eu hangen drwy glicio ar y ddolen isod:

https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/fframwaith-cymwysterau/rol-swyddi/cyfleusterau-gofal-dydd-llawn-a-chyfleusterau-creche-i-blant-o-dan-wyth-oed

Os ydy'r Lleoliad Meithrin Dydd yn gofalu am blant hyd at 12 oed hefyd, byddwch chi angen cymhwyster Pontio i Waith Chwarae er mwyn gofalu am blant sy'n hŷn nag 8 oed.

Byddwch chi angen isafswm o Dystysgrif Diogelu a Chymorth Cyntaf Plant Lefel 2 sydd wedi'i hennill o fewn y 3 blynedd ddiwethaf. Mae y rhain yn ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) sy'n nodi gofynion ar gyfer pob lleoliad Gofal Plant yng Nghymru. RHAID i unrhyw leoliad sy'n darparu gofal am fwy na 2 awr y diwrnod gofrestru gydag AGC.

Os ydy'r lleoliad y darparu byrbrydau, byddai'n arfer dda i chi hefyd feddu ar Dystysgrif Hylendid Bwyd dilys.