Mae Gofalwr Plant (neu Garcwr Plant) yn rhywun sy'n gofalu am blant yn eu cartref eu hunan. Maen nhw’n gofalu am blant rhwng 6 wythnos oed a 12 mlwydd oed.
Mae Gofalwyr Plant fel arfer yn gweithio rhwng 7am a 7pm, ddydd Llun i ddydd Gwener gyda rhai yn gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau. Am mai eich busnes chi yw e, mae modd i chi ddewis eich oriau gwaith eich hun. Mae Gofalwyr Plant yn dueddol o weithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond eto, mae modd i chi ddewis pa ddyddiau rydych chi eisiau gweithio. Gallech chi weithio dros y penwythnos os oedd galw am hyn yn eich ardal chi.
A chithau'n Ofalwr Plant, byddai modd i chi ofalu am hyd at 10 o blant yn eich cartref, fodd bynnag, efallai byddwch chi angen ceisio caniatâd cynllunio i wneud hynny. Maen nhw’n cyflogi cynorthwy-ydd i weithio gyda nhw yn aml iawn. A chithau'n Ofalwr Plant, os oes gyda chi unrhyw blant dan 12 mlwydd oed yn byw yn eich cartref chi, bydd y rhain yn cael eu cynnwys wrth gyfri nifer y plant rydych chi'n goflau amdanyn nhw, h.y. os ydych chi wedi cofrestru i ofalu am 6 o blant ac mae gyda chi 2 o blant eich hunan dan 12 mlwydd oed, dim ond 4 o blant ychwanegol fyddai modd i chi ofalu amdanyn nhw pan maen nhw gartref.
Mae Gofalu am Blant yn yrfa hyblyg a buddiol lle byddwch chi'n hunan-gyflogedig ac yn meithrin plant ifainc yn eich gofal chi.
Ai dyma'r dewis gyrfa gywir ar fy nghyfer i?
Er mwyn bod yn Ofalwr Plant llwyddiannus, byddai meddu ar y nodweddion canlynol yn eich cynorthwyo chi ar eich taith gyrfa:
- Bod yn hyblyg
- Bod yn ymaddasol
- Mwynhau gweithio gyda phlant
- Bod yn ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd
- Bod yn hunan-gymhellol a meddu ar angerdd i redeg eich busnes eich hunan
- Credu bod pob plentyn yn haeddu profiadau o'r ansawdd gorau a dechrau da mewn bywyd
- Bod yn frwdfrydig am ddatblygiad plant gan gynnig cymorth i blant a theuluoedd
Os 'ydw' yw’r atebion i'r datganiadau uchod, efallai mai Gofalu am Blant yw'r yrfa i chi!
Er mwyn dod yn Ofalwr Plant, rhaid i chi gwblhau cwrs Cyn-Cofrestru. Dyma 2 uned o gwrs Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 (CCPLD). Mae'r unedau yma yn gyflwyniad i Uned 326, Ofal Plant yn y Cartref ac Uned 327, Paratoi ar gyfer Gofalu am Blant.
Byddai modd i Garfan Gofal Plant Rhondda Cynon Taf gynnig cymorth i chi ddechrau ar eich gyrfa yn Gofalu am Blant. Gallwn ni gynnig y canlynol:
- Cyfleoedd wedi'u hariannu i gwblhau eich cwrs gofalu am blant cyn-cofrestru.
- Cymorth a chyngor parhaus.
- Cymorth i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
- Aelodaeth ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus am ddim dros y flwyddyn rydych chi'n rhan o Sefydliad Proffesiynol Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY).
- Hyfforddiant wedi'i hariannu, megis Cymorth Cyntaf i Blant, Diogelu a Diogelwch Bwyd.
- Pecynnau Dechrau Arni, gan gynnwys adnoddau gan PACEY.
- Grant bach er mwyn dechrau ar gyfer eich lleoliad Gofal Plant newydd wedi i chi gofrestru ag AGC.
Am ragor o wybodaeth, neu am drafodaeth anffurfiol, am sut i ddechrau ar eich taith i ddod yn Ofalwr Plant, e-bostiwch: