Skip to main content

Pa gymorth sydd ar gael i rieni/gwarcheidwaid plentyn ag anabledd?

Os ydych chi'n darparu cymorth i'ch plentyn anabl yn rheolaidd, rydych chi'n gynhaliwr. Mae gyda chi hawl i dderbyn asesiad cynhaliwr. 

Mae'r asesiad yma'n gyfle i chi ystyried effaith gofalu am eich plentyn ar eich bywyd chi ac ystyried unrhyw anghenion sydd gyda chi.