Skip to main content

Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal

Mae Taliadau Uniongyrchol yn daliadau arian parod yn hytrach na gwasanaethau sydd eu hangen, yn ôl ein hasesiad ni, ar y defnyddiwr gwasanaeth, cynhaliwr, plentyn, person ifanc neu deulu. Mae'r taliadau wedi'u cynllunio i sicrhau rheolaeth a hyblygrwydd i bobl o ran sut mae eu hanghenion gofal yn cael eu diwallu.

Os ydy'ch plentyn wedi cael ei asesu'n gymwys (addas) i dderbyn gwasanaeth gan y Carfanau Plant Anabl ac mae angen clir am ofal a chymorth wedi'i nodi, bydd modd ystyried Taliadau Uniongyrchol er mwyn helpu'ch plentyn i fyw bywyd mwy annibynnol. Bwriad y taliadau yw rhoi hyblygrwydd i chi ddiwallu anghenion gofal a chymorth eich plentyn trwy gynnig rhagor o ddewis a rheolaeth dros y gwasanaethau y mae'n eu derbyn. Gyda Thaliadau Uniongyrchol: Chi sy'n dewis pwy sy'n darparu'r gofal i ddiwallu'ch anghenion a chi sy'n dewis pryd mae gwasanaethau'n cael eu darparu.

Gweld rhagor o fanylion am Daliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal