Skip to main content

Ffisiotherapi

Mae ein Carfan Ffisiotherapi Arbenigol Siartredig yn rhan o garfan amlddisgyblaethol yr adran Iechyd Galwedigaethol sy'n hyrwyddo lles staff, yn cynnal asesiadau ffitrwydd i weithio o safon uchel ac yn arwain rheolaeth barhaus mewn perthynas â lles corfforol staff. Mae ein ffisiotherapyddion wedi'u hyfforddi er mwyn cynnal asesiadau cyhyrysgerbydol cynhwysfawr er mwyn llywio eich ffitrwydd i weithio ac arwain llwybrau therapiwtig ar gyfer anhwylderau cyhyrysgerbydol. Bydd y ffisiotherapydd yn gwneud pob ymdrech i gefnogi lles staff trwy ymyraethau arbenigol medrus fel presgripsiwn ymarfer corff, cynnig addasiadau i'ch ffordd o fyw, therapi â llaw, aciwbigo, pigiadau cortison ac mewn rhai achosion, helpu i wneud diagnosis trwy sganiau uwchsain diagnostig. Mae cyfeirio’n ôl i wasanaethau meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn rhan o'r broses. Mae’r cleient a’r therapydd yn cytuno ar bob dewis o ran gofal.

Beth i’w ddisgwyl yn ystod fy apwyntiad gyda'r ffisiotherapydd?

Bydd eich apwyntiad cyntaf gyda'r ffisiotherapydd yn cael ei gynnal dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Yn ystod yr apwyntiad yma, bydd y ffisiotherapydd yn gofyn cyfres o gwestiynau gyda'r nod o asesu eich pryderon a'ch anghenion cyhyrysgerbydol, ynghyd â'ch gallu i weithio. Yn dilyn y cwestiynau, efallai bydd y ffisiotherapydd yn gwneud argymhellion o ran ymyrraeth, apwyntiadau ychwanegol yn ôl yr angen a/neu'ch cyfeirio chi i dderbyn rhagor o gymorth meddygol.

 

Os hoffech chi drefnu apwyntiad gydag un o'n gweithwyr proffesiynol, ffoniwch yr uned Iechyd Galwedigaethol ar 01443 494003 neu e-bostiwch: YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk