Skip to main content

Terfynau cyflymder diofyn o 20mya – Ffyrdd Cyfyngedig Cymru

20mph-Web-Banner---children-walking---800x900-bilingual

Cefndir

Pasiodd Llywodraeth Cymru 'Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 MYA) (Cymru) 2022' ar 13 Chwefror 2022, a ddaeth i rym ar 17 Medi 2023. Roedd yn ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru roi’r fenter yma gan Lywodraeth Cymru ar waith. 

Yn sgil cyflwyno'r ddeddfwriaeth yma, cafodd effaith fawr ar rwydwaith priffyrdd yr awdurdod lleol. Mae'r terfyn cyflymder yn y rhan fwyaf o'n strydoedd sydd â therfyn cyflymder wedi’i leihau i 20 MYA (os oes goleuadau stryd ar y ffordd).

Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar y dudalen yma wrth i'r cynllun ddatblygu.

Ar ba gam ydyn ni ar hyn o bryd?

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r fenter 20 MYA ar waith yn sylweddol yn Rhondda Cynon Taf ac mae bellach wedi dechrau ar y cyfnod cynnal a chadw 12 mis. Mae'r Cyngor yn parhau i fonitro a chywiro unrhyw ddiffygion a gafodd eu hamlygu ar y rhwydwaith cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn aros am y nodyn canllaw diwygiedig 'Creu Lleoedd' / 'Gosod Terfynau Cyflymder ar Ffyrdd Lleol yng Nghymru' gan Lywodraeth Cymru. Pan fydd hwn ar gael, bydd yn galluogi'r Awdurdod i adolygu ceisiadau gan y cyhoedd sy'n galw am roi terfynau cyflymder uwch ar waith ar ffyrdd a gafodd eu nodi'n flaenorol gan Lywodraeth Cymru fel rhai sy'n rhagosod yn awtomatig i 20 MYA.

Hyd nes y bydd y polisi yma'n cael ei adolygu a'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, does dim modd i Gyngor Rhondda Cynon Taf ystyried ceisiadau pellach i roi terfynau cyflymder 30 MYA ar waith ar ffyrdd a gafodd eu rhagosod i derfyn cyflymder 20 MYA ar 17 Medi 2023. Dylid nodi, cafodd y rhain eu rhoi ar waith yn unol â pholisi 20 MYA presennol Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi cynnwys y meini prawf creu lleoedd presennol isod, er gwybodaeth.

 

  1. Mae'r meini prawf 'lle' canlynol wedi'u datblygu i arwain awdurdodau priffyrdd i benderfynu, mewn modd cyson ledled Cymru, pa rannau o'r ffyrdd a allai fod â galw sylweddol am bobl sy'n cerdded a beicio:
    1. O fewn 100 metr ar droed o unrhyw leoliad addysgol (e.e. ysgol gynradd, ysgol uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch)
    2. O fewn 100 metr ar droed o unrhyw ganolfan gymunedol
    3. O fewn 100 metr ar droed o unrhyw ysbyty
    4. Lle mae nifer yr eiddo preswyl a/neu fanwerthu sy'n wynebu'r ffordd yn fwy nag 20 eiddo fesul km.
  2. Dylai dau brif gwestiwn, sef cwestiynau A a B isod, gael eu hystyried gan awdurdodau priffyrdd wrth benderfynu a ddylid gwneud eithriad 30 MYA:
    1. A oes niferoedd sylweddol (neu niferoedd posibl, pe bai'r cyflymder yn is) o gerddwyr a beicwyr yn teithio ar hyd neu ar draws y ffordd?
      • Os mai 'na' yw'r ateb i A, efallai y bydd eithriad ar gyfer terfyn cyflymder 30 MYA yn briodol
    2. Os mai 'ie' yw'r ateb i A, a yw'r cerddwyr a beicwyr yn cymysgu â thraffig?
      • Os mai 'na' yw'r ateb i B, efallai y bydd eithriad ar gyfer terfyn cyflymder 30 MYA yn briodol.

Serch hynny, ers rhoi'r polisi ar waith ar 17 Medi 2023, mae'r Cyngor wedi bod yn adolygu pob cais gan y cyhoedd a swyddogion etholedig. Lle mae'r ceisiadau yma yn gorgyffwrdd ag ardaloedd yr ymgynghorwyd arnyn nhw yn flaenorol ag Aelodau (yn rhan o'r ymgynghoriad 20 MYA ag Aelodau ym mis Ebrill / Mai 2023), mae'r Cyngor wedi gofyn am, ac wedi derbyn, cyllid i gynnal adolygiad o'r ardaloedd penodol yma. Serch hynny, does dim modd i'r Cyngor gynnal yr adolygiad yma hyd nes y bydd y nodiadau canllaw diwygiedig / polisi 20 MYA yn cael ei gyhoeddi i'r Awdurdod Priffyrdd. Mae tabl 1 isod yn amlinellu'r meysydd sydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad o fewn blwyddyn ariannol 2024/2025.

Stryd

Tref

Sylwadau Ychwanegol

Teras y Ddraenen Wen a Heol Llanwynno

Meisgyn

Rhwng Teras Arthur a'r Safle Dosbarthu Trydan. Rhan o’r ffordd yn 20 MYA. Tua 720 metr o hyd. Ail-sefydlu'r porth 20/30 MYA blaenorol.

Heol Caerdydd

Rhydfelen

Rhwng cyfnewidfa Glyn-taf i Stryd Merfyn. Ychydig iawn o ffryntiau ar hyd y ffordd gyfan. Tua 0.8 milltir o hyd.

Ffordd Hirwaun (A4059)

Hirwaun

Rhwng cylchfan Hirwaun a Golwg y Mynydd. Yn mynd o 20 MYA i 40 MYA. Mae'r eiddo i gyd wedi'u gosod yn ôl o'r ffordd gerbydau.

B4275

Abercynon

Symud y porth terfyn cyflymder yn ôl i'w safle gwreiddiol. Cadw Teras Martin yn 20 MYA.

Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys

Pentre'r Eglwys

Cais i adolygu terfyn cyflymder cylchfannau 20 MYA ar yr A473 a'u newid i 30 MYA neu'r Terfyn Cyflymder Cenedlaethol.

A4059

Penderyn

Mae'r rhan fwyaf o dai wedi'u gosod yn ôl o'r ffordd gerbydau, eu hadolygu yn erbyn y meini prawf a ddylai ddychwelyd i 30 MYA ai peidio.

Cwmynysminton

Llwydcoed

Adolygu'r rhan o'r ffordd a oedd yn 50 MYA yn flaenorol, rhwng yr eiddo sy'n cael ei alw'n Cligferran.

Tabl 1 – Rhannau o'r Briffordd Gyhoeddus i'w hadolygu yn dilyn cyhoeddi meini prawf creu lleoedd newydd Llywodraeth Cymru.

Dweud eich dweud

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am hwyluso'r newid i'r rhwydwaith priffyrdd yn sgil cyflwyno'r ddeddfwriaeth yma. Llywodraeth Cymru sy'n llywio ac yn ariannu'r cynllun yn gyffredinol ac felly dylech chi godi unrhyw bryderon yn uniongyrchol gyda hi:

Serch hynny, mae'r Cyngor bellach yn llunio rhestr o ardaloedd / strydoedd y mae'r cyhoedd wedi'u nodi nad yw'r terfyn cyflymder 20 MYA yn briodol, a bydd y Cyngor yn ceisio cyllid ychwanegol i adolygu'r ardaloedd yma, gan y bydd y gost o adolygu'r newidiadau yma a'u rhoi ar waith yn llawer mwy na chyllideb Rheoli Traffig y Cyngor. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei chyhoeddi ar y dudalen yma ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r meini prawf creu lleoedd diwygiedig er mwyn rhoi cyngor ar y broses wrth symud ymlaen.

Os hoffech chi wneud cais i'r cyfyngiad cyflymder ar ran o'r Briffordd Gyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf gael ei adolygu (o'r terfyn 20 MYA diofyn), mae modd i chi wneud hynny drwy wefan y Cyngor (https://porthigwsmeriaid.rctcbc.gov.uk/FfurflenParthCyflymder20mya) neu drwy e-bostio: 20mya@rctcbc.gov.uk

Ymgynghoriadau

Mae'n ofynnol i Gyngor Rhondda Cynon Taf ymgynghori ar unrhyw newidiadau arfaethedig i'r terfyn cyflymder diofyn 20 MYA yn rhan o'r broses reoleiddio statudol (trwy roi Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar waith). Serch hynny, does dim modd i'r Cyngor adolygu unrhyw un o'r terfynau cyflymder 20 MYA a gafodd eu rhoi ar waith hyd nes y bydd y nodiadau canllaw diwygiedig / polisi 20 MYA yn cael ei gyhoeddi i'r Awdurdod Priffyrdd. Mae tabl 1 uchod yn amlinellu'r ardaloedd sydd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad o fewn blwyddyn ariannol 2024/2025.

Bydd y Cyngor yn darparu rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag unrhyw newidiadau arfaethedig (sy'n gysylltiedig â'r fenter 20 MYA) drwy'r dudalen we yma.

Eitemau Newyddion