Skip to main content

Cynllun Corfforaethol y Cyngor

Cytunodd y Cyngor ar Gynllun Corfforaethol y Cyngor 2024-2030, ‘Gweithio gyda'n Cymunedau’, ym mis Ebrill 2024.

 

Mae 'Gweithio gyda'n Cymunedau' yn nodi ein pedwar Amcan Lles a blaenoriaethau sy'n sail iddyn nhw.

Ein Hamcanion Lles:

  1. POBL A CHYMUNEDAU - Cefnogi a grymuso trigolion a chymunedau RhCT i fyw bywydau diogel, iach a chyflawn.
  2. GWAITH A BUSNES - Helpu i gryfhau a thyfu economi RhCT.
  3. BYD NATUR A'R AMGYLCHEDD - RhCT gwyrdd a glân sy'n gwella ac yn gwarchod yr amgylchedd a byd natur.
  4. DIWYLLIANT, TREFTADAETH A'R IAITH GYMRAEG - Cydnabod a dathlu gorffennol, presennol a dyfodol RhCT.

Mae'r Cynllun Corfforaethol hefyd yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer RhCT lle ‘Mae modd i bobl, cymunedau a busnesau dyfu a byw mewn Bwrdeistref Sirol iach, gwyrdd, diogel, bywiog a chynhwysol lle mae modd iddyn nhw gyflawni eu potensial ym mhob agwedd ar eu bywydau, nawr ac yn y dyfodol’.

Dim ond Cyngor sy'n cael ei redeg yn dda all gyflawni ein gweledigaeth, amcanion lles a blaenoriaethau.  Mae hynny'n golygu Cyngor sydd â diwylliant sefydliadol cadarnhaol, sy'n gwerthfawrogi ei staff, yn rheoli ei adnoddau'n ddoeth ac sy'n ceisio gwella'n barhaus yr hyn a wnawn i gael yr effaith orau ar drigolion ac i ateb yr heriau niferus rydyn ni'n eu hwynebu.  Rydyn ni hefyd wedi nodi ymrwymiadau i drigolion, staff a phartneriaid yn y cynllun.

Rhaid i'r holl Gynghorau yng Nghymru gydymffurfio â nifer o gyfreithiau sy'n llywio ein gwaith.  Mae'r cyfreithiau yma'n cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015  sydd ymhlith pethau eraill, yn gofyn bod Cynghorau'n gosod Amcanion Lles. Mae'r Amcanion Lles sydd wedi'u nodi yn ein Cynllun Corfforaethol yn cyd-fynd â gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol RhCT.

Cliciwch yma i weld fersiwn 'hawdd ei ddeall'.

Cynlluniau Corfforaethol Blaenorol:

 Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y Garfan Rheoli Cyflawniad ar cynlluncyflawni@rctcbc.gov.uk

Diwygiwyd y dudalen ym mis Ebrill 2024