Skip to main content

Y Maer

Y Cynghorydd Dan Owen-Jones yw Maer Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael ei benodi yn ystod 29ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, a gafodd ei gynnal ddydd Mercher, 8 Mai 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Owen-Jones, yr Aelod Etholedig ar gyfer Ward Dwyrain Tonyrefail, ei fod yn hynod o falch o gael y fraint i gymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd Wendy Lewis, o ardal Llwynypia.

Cafodd y Cynghorydd Owen-Jones ei eni a'i fagu yn ardal Cwm-parc, yng nghalon Cwm Rhondda. Mae'r Cynghorydd, sy'n fab i gyn-filwr arwrol, yn frawd i chwech ac yn dad balch iawn, yn edrych ymlaen at barhau i hyrwyddo'r Fwrdeistref Sirol yn rhan o'i rôl yn Faer.

Ar ôl ymddeol o'i swydd ym maes Rheoli Safleoedd ac Adeiladu, mae bellach yn gweithio’n Ymgynghorydd Preifat, Clerc Gwaith ac Arolygydd. Mae e hefyd yn gwasanaethu’n Aelod Etholedig ar gyfer y Blaid Lafur yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf ac yn Gynghorydd Cymuned ar gyfer ardaloedd Penrhiw-fer ac Edmondstown. 

Mayor 2024 Dan Owen-Jones
Ar ôl iddo gael ei benodi'n Faer Rhondda Cynon Taf, meddai'r Cynghorydd Dan Owen-Jones:

Yn ystod fy nghyfnod yn Ddirprwy Faer, rydw i wedi cael fy synnu gan yr holl waith gwirfoddoli sy'n cael ei wneud ac ymroddiad y nifer fawr o bobl sy'n gwneud eu gorau glas i wella ein cymunedau a rhoi gobaith iddyn nhw. Mae ein Bwrdeistref Sirol yn ardal sy'n llawn cyfoeth, ac mae modd i ni wneud gwahaniaeth gyda'n gilydd o ganlyniad i'r caredigrwydd, tosturi ac ewyllys da yma.

Yn ystod fy amser gyda Swyddfa'r Maer rydw i wedi diolch o’r galon i'n trigolion sy'n rhoi o'u hamser i helpu lle bynnag y bo angen a byddaf i'n parhau i wneud hynny. Does dim modd cyfleu mewn geiriau yr effaith amhrisiadwy y mae'r ymroddiad parhaus yma'n ei chael ar ein cymunedau.

Mae camu i rôl Maer Rhondda Cynon Taf ar gyfer y flwyddyn i ddod yn anrhydedd enfawr, yn enwedig ochr yn ochr â fy Nghymar, sef fy merch, Abbie. Bydd angerdd Abbie a'r cyfoeth o wybodaeth leol a phroffesiynol sydd ganddi, gan gynnwys ei gallu i siarad Cymraeg yn rhugl, yn gaffaeliad gwerthfawr i ni wrth gynrychioli ein trigolion.

Mae'r Cynghorydd Dan Owen-Jones wedi dewis yr elusennau canlynol ar gyfer ei flwyddyn yn y swydd: Ysgol Farchogaeth i Bobl Anabl Green Meadow, 2 Wish Cymru Llantrisant, Clwb Nofio i Bobl Anabl Rhondda Polar BearsCymdeithas Dementia ac Alzheimer's, a bydd y Maer hefyd yn cefnogi Cyn-filwyr Taf-elái yn Rhydfelen.

Cafodd y Cynghorydd Sheryl Evans, yr Aelod Etholedig ar gyfer Ward Aberaman, ei phenodi'n Ddirprwy Faer Rhondda Cynon Taf yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher, 8 Mai.

Gwneud rhodd ar-lein i Apêl Elusennau'r Maer.

Sut mae cysylltu â'r Maer?

Hoffech chi wahodd y Maer i achlysur neu hoffech chi ragor o wybodaeth ynglŷn â swyddogaeth y Maer? Croeso ichi gysylltu â Swyddfa'r Maer.

Swyddfa'r Maer   

Swyddfa’r Cabinet

2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf,

Pontypridd,

CF37 4TH

Rhif Ffôn: 01443 424199
Tudalennau Perthnasol