Skip to main content

Cronfa Deddf Eglwys Cymru

Sefydlwyd Cronfa Deddf Eglwys Cymru gyda'r elw a'r asedau yn dilyn datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru. Dosbarthwyd yr asedau hyn yn gyfartal ymhlith y cyn-gynghorau sir yng Nghymru, ac yna eu rhannu rhwng Awdurdodau Unedol Cymru pan gawsant eu ffurfio yn 1996.  Mae Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru yn ymddiriedolaeth elusennol annibynnol

Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru ar gael i eglwysi, capeli, lleoedd addoliad cyhoeddus, grwpiau cymunedol ac elusennol sy'n gweithredu yn ardaloedd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr. Rhaid i sefydliadau ddarparu gweithgareddau tymor hir yn uniongyrchol a fydd o fudd i drigolion a chymunedau’r ardaloedd hyn, a rhaid bod y gweithgareddu ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol.

Sefydliadau sydd naill ai wedi'u trwyddedu i werthu alcohol; meddu ar dystysgrif safle clwb; gweithredu o gyfeiriad preswyl neu os ydynt yn gorff statudol (gan gynnwys cynghorau tref a chymuned yn methu gwneud cais.

Mae'r Gronfa yn darparu cefnogaeth ar gyfer gwariant cyfalaf fel:

  • Adnewyddu adeiladau cymunedol neu leoedd o addoliad;
  • Prynu cyfarpar cyfalaf;
  • Dibenion eraill sy'n fuddiol i'r gymuned ehangach.

Categori

Gall y Gronfa Gyfrannu

Eich Cyfraniad

Safon - Bach

100% tuag at gost prosiect cymwys hyd at uchafswm grant o £3,000

0%

Safonol - Canolig

Hyd at 90% tuag at gost prosiect cymwys hyd at

uchafswm grant o £15,000

Lleiafswm o 10%

 

Sylweddol - Mawr

 

 

 Hyd at 80% tuag at gost prosiect cymwys hyd at
uchafswm grant o £50,000

Lleiafswm o 20%

 

Rhaid i brosiect sylweddol alluogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau neu weithdareddau newydd/ estynedig  ar gyfer y gymuned. Rhaid i’r prosiectau yma ychwanegu gwerth. Ni ellir cyfrannu grant sylweddol at barhad gweithgarwch presennol yn unig.

Mae'r Gronfa yn gweithredu ar sail rhaglen dreigl. Nid oes unrhyw gylchoedd ceisiadau penodol a gellir cyflwyno ceisiadau wedi'u datblygu'n llawn ar unrhyw adeg. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd pob cais yn llwyddiannus.

 Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â ni ar 01443 281124 neu e-bostiwch adfywio@rctcbc.gov.uk gydag amlinelliad byr am eich sefydliad a'ch prosiect arfaethedig.